Daw mis o eithafion tywydd i ben heddiw ar ddiwedd penwythnos o dywydd sy’n anarferol o oer ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn.
Ar ôl dwy storm gydag enwau, a’r diwrnod poethaf o Awst ers 17 mlynedd, roedd uchafswm tymheredd cyn ised â 12 gradd C mewn rhai lleoedd ddoe, a dyw’r Swyddfa Dywydd ddim yn rhagweld y bydd yn cynhesu llawer heddiw chwaith.
“Mae’r gwyl y banc hwn wedi bod yn annhymhorol o oer, gan nad ydym yn cael tymheredd sy’n nesáu at y rhewbwynt yn aml ym mis Awst,” meddai Alex Burkhill o’r Swyddfa Dywydd.
“Mae’r tywydd wedi taflu popeth atom y mis yma ac mae wedi bod yn eithafol ar brydiau – rydym wedi cael tywydd poeth iawn ac yna ddwy storm tuag at ddiwedd y mis.”
“Oherwydd amrywiaeth y tywydd, ni fydd cyfartaleddau’r mis yn dangos yr eithafion rydym wedi eu profi.”
Yr wythnos ddiwethaf, cafodd y rhan fwyaf o Brydain ei tharo gan Storm Francis, ddyddiau ar ôl Storm Ellen.
“Dyw stormydd fel hyn ddim yn arferol ym mis Awst, mewn gwirionedd dyma’r tro cyntaf inni gael storm ac enw iddi ym mis Awst,” meddai Alex Burkill.
“Mae cael storm wythnos ar ôl y llall yn fwy eithafol fyth.”
Roedd y stormydd yn dilyn sbel o dywydd poeth, a welodd uchafswm tymheredd o 36.4 gradd C yn Heathrow a Gerddi Kew – y diwrnod poethaf o Awst a gafodd ei gofnodi mewn 17 mlynedd.