Mae teithwyr a wnaeth hedfan yn ôl i Gaerdydd o ynys Zante yng Ngwlad Groeg ddydd Mawrth (25 Awst) yn cael eu rhybuddio i hunan-ynysu.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod o leiaf saith achos o’r Covid-19 o dri theulu gwahanol wedi cael eu cadarnhau ar daith TUI 6215 y diwrnod hwnnw.

“Rydym yn cynghori bod pob teithiwr ar yr awyren hon yn cael eu hystyried yn gysylltiadau agos a bod yn rhaid iddyn nhw hunan-ynysu,” meddai Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Cysylltir â’r teithwyr hyn yn fuan, ond yn y cyfamser, rhaid iddyn nhw hunan-ynysu gartref, gan y gallan nhw fod yn heintus, hyd yn oed heb ddatblygu symptomau – a dylai unrhyw un sydd â symptomau drefnu prawf yn ddi-oed.”

Daw’r rhybudd hwn wrth i 56 achos arall o’r coronafeirws gael eu cadarnhau yng Nghymru dros y cyfnod 24-awr diwethaf, er na fu marwolaethau o’i herwydd dros y cyfnod hwnnw.

Ni fu rhagor o farwolaethau coronafeirws yn yr Alban na Gogledd Iwerddon ychwaith, er y bu farw tri chlaf mewn ysbytai yn Lloegr.

Cafodd 123 o achosion newydd eu cadarnhau yn yr Alban – y nifer uchaf ers 22 Awst – er bod y ganran o 0.7% o’r rhai a gafodd eu profi yr un fath â’r diwrnod cynt. Cafwyd 49 o achosion newydd yng Ngogledd Iwerddon.