Mae Heddlu De Cymru’n amcangyfrif fod hyd at 3,000 o bobl wedi teithio o bob rhan o Brydain i rêf anghyfreithlon yn Banwen, uwchben Cwm Nedd.

“Mae’r math yma o digwyddiad anghyfreithlon yn gwbl annerbyniol, ac rydym yn sylweddoli’r pryderon mae wedi eu hachosi i’r gymuned leol,” meddai’r Prif Uwcharolygydd Simon Belcher.

“Hoffwn atgoffa pobl eto o’u dyletswyddau o dan y ddeddfwriaeth coronafeirws bresennol a’r prif nod o gael pawb i gymryd cyfrifoldeb personol trwy ddilyn rheolau Llywodraeth Cymru i gadw Cymru’n ddiogel.

“Mae hofrennydd yr heddlu a swyddogion plismona ffyrdd yn bresennol yn yr ardal, ac rydym yn edrych ar bob darn o ddeddfwriaeth i weld pa gamau y gallwn eu cymryd yn ddiogel.

“Byddwn yn mynd i’r afael â cheir sydd wedi eu parcio’n anghyfreithlon, a bydd pobl a fydd yn parhau i geisio dod i ardal y digwyddiad anghyfreithlon hwn yn cael eu troi i ffwrdd.”