Mae ymddygiad tyrfa fawr o bobl ifanc mewn rêf wedi cythruddo trigolion lleol yn ardal Banwen ym mlaenau Cwm Nedd.

Mae cwynion nad yw’r bobl ifanc yn cadw pellter cymdeithasol, eu bod wedi cadw swn yno drwy’r nos, ac mae ofnau y bydd y rêf yn parhau tan yfory, dydd Llun.

Mae trigolion yn cwyno hefyd am geir wedi eu parcio ar draws ei gilydd ac yn achosi rhwystrau ar ffyrdd, ac yn pryderu y bydd y bobl ifanc yn gadael llanast ar eu hôl.

“Mae’n warthus fod ein pentref bach ni wedi cadw at yr holl reolau Covid i gadw’n gilydd yn saff a bod parti rêf yn digwydd ar y mynydd,” meddai Kayrenne Whitney. “Duw a wyr o lle mae’r bobl hyn yn dod a all fod yn lledaenu’r feirws ac mae angen i’r heddlu eu symud ymlaen.”

Meddai Alison Davies:

“All pobl ddim mynd i angladdau eu hanwyliaid, ymweld â chleifion na chael apwyntiadau wyneb yn wyneb gyda meddygon arbenigol, ac mae’n gywilydd fod hyn yn gallu mynd ymlaen.”

Dywed yr heddlu fodd bynnag eu bod yn gwneud eu gorau i ddatrys y sefyllfa.

“Rydym wrthi’n cyd-drafod gyda threfnwyr a’r dyrfa er mwyn eu hatgoffa o’r angen i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth bresennol ynglyn â’r coronafeirws,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.

“Y nod yw sicrhau bod pawb yn cymryd cyfrifoldeb personol dros ddilyn rheoliadau Llywodraeth Cymru i gadw Cymru’n ddiogel.

“Fe fydd y rheini sy’n ymgasglu mewn niferoedd mawr a chymryd rhan mewn ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn gwybod bod eu gweithredoedd yn anghyfrifol.”

Mae’r heddlu’n apelio hefyd ar rieni pobl ifanc i sicrhau eu bod nhw’n gwybod lle mae eu plant a beth maen nhw’n ei wneud.