Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo cyllid ychwanegol i ddigolledu cynghorau sy’n derbyn llai o arian treth cyngor o ganlyniad i gynnydd mewn galw am ostyngiadau gan drethdalwyr lleol.

Mae cartrefi sydd ar incwm isel ledled Cymru wedi elwa ar Gynllun Gostyngiadau Treth Cyngor Llywodraeth Cymru ers dechrau’r pandemig. Wrth i’r nifer o gartrefi sy’n gymwys amdano gynyddu yn sgil diweithdra a gostyngiad incwm, mae’r Llywodraeth wedi dyrannu £2.8 miliwn ychwanegol tuag at y cynllun.

“Er bod y coronafeirws yn effeithio ar bob un ohonom, rydym yn gwybod ei fod yn cael yr effaith ariannol fwyaf sylweddol ar rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas,” meddai’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans.

“Bydd y cyllid dw i’n ei gyhoeddi heddiw yn rhoi’r sicrwydd ariannol sydd ei angen ar awdurdodau lleol i barhau i gefnogi’r rhai sydd ei angen fwyaf drwy ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

“Dw i’n annog unrhyw un sy’n meddwl y gallai fod yn gymwys am gymorth gyda’r dreth gyngor i gysylltu â’i gyngor am arweiniad.”