Llwyddodd heddlu’r Almaen i atal eithafwyr asgell dde a geisiodd ymosod ar senedd-dy’r wlad ar ôl protest yn erbyn cyfyngiadau coronafeirws yn Berlin ddoe.
Roedd hyn ar ôl i ddegau o filoedd orymdeithio trwy’r brifddinas i ddangos eu gwrthwynebiad i wisgo masgiau a mesurau eraill y llywodraeth i atal yr haint.
Mae lluniau’n dangos cannoedd o bobl, rhai yn chwifio baner Reich yr Almaen 1871-1918 a baneri eraill y dde eithaf, yn rhedeg tuag at adeilad y Reichstag, ond dywed yr heddlu na wnaethon nhw lwyddo i fynd i mewn.
“Cafodd cerrig a photeli eu taflu at ein cydweithwyr, a bu’n rhaid defnyddio grym i’w gwthio nhw yn ôl,” meddai’r heddlu.
Yn ystod yr orymdaith, roedd y protestwyr yn dangos eu gwrthwynebiad i amrywiaeth o faterion, gan gynnwys brechiadau, masgiau wyneb a llywodraeth yr Almaen yn gyffredinol.
Roedd rhai yn gwisgo crysau T yn hyrwyddo’r “QAnon” – cwlt o gefnogwyr Donald Trump yn America sy’n honni bod y byd yn cael ei reoli gan rwydwaith rhyngwladol o bedoffiliaid – ac eraill yn dangos sloganau cenedlaetholwyr gwyn a neo-Nazi.
Roedd yr orymdaith yn digwydd ar adeg pan fo’r feirws ar gynnydd yn yr Almaen. Adroddodd asiantaeth rheoli afiechydon y wlad fod 1,500 o achosion newydd wedi cael eu cadarnhau ddoe. Mae cyfanswm marwolaethau coronafeirws yr Almaen o tua 9,300 o bobl fodd bynnag yn llai na chwarter y niferoedd sydd wedi marw ym Mhrydain. Mae arolygon barn hefyd yn dangos cefnogaeth gref i gyfyngiadau’r llywodraeth i geisio atal yr haint.