Mae’n ymddangos bod cynnydd sylweddol yn y gefnogaeth i’r Blaid Lafur, sydd bellach wedi dal i fyny â’r Torïaid mewn arolwg barn newydd.

Yn ôl yr arolwg gan Opinium, mae’r gefnogaeth i’r ddwy blaid yn gyfartal bellach ar 40%, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 6%.

Mae’r arolwg yn dangos hefyd bod bron i hanner pleidleiswyr Prydain – 47% – yn anhapus gyda’r ffordd mae’r Llywodraeth wedi ymdrin â’r coronafeirws, o gymharu â llai na thraean, 31% sy’n cymeradwyo.

Mae’r canfyddiadau hyn yn debygol o gynyddu’r pwysau ar y Prif Weinidog Boris Johnson, sy’n wynebu beirniadaeth gyson gan aelodau ei blaid ei hun ar ôl cyfres o droeon pedaol dros y misoedd diwethaf.

Ymhlith y rhai sy’n feirniadol o’r Prif Weinidog mae Syr Charles Walker, is-gadeirydd pwyllgor 1922 o aelodau mainc cefn y Ceidwadwyr, sydd fel arfer yn deyrngar iddo:

“Yn rhy aml, mae’n ymddangos fel pe bai’r llywodraeth yma yn llyfu ei bys a’i godi i’r awyr i weld pa ffordd mae’r gwynt yn chwythu,” meddai.

“Mae’n dod yn fwyfwy anodd bellach i aelodau meinciau cefn hyrwyddo ac amddiffyn polisi’r Llywodraeth gan y gall y polisi hwnnw newid neu gael ei ollwng yn ddirybudd.

“Boed hyn yn digwydd yn fwriadol neu ar ddamwain, mae’r hinsawdd o ansicrwydd yn anghynaliadwy ac yn erydu moral.”

Cafodd 2,002 o oedolion yn y Deyrnas Unedig eu holi ar-lein gan Opinium rhwng Awst 26-28 ar gyfer yr arolwg.