Mae adroddiadau bod y Trysorlys yn ystyried £20 biliwn o drethi ychwanegol i dalu costau’r argyfwng coronafeirws.
Yn ôl y Sunday Times heddiw, mae’r Canghellor Rishi Sunak yn ystyried codi cyfradd y dreth gorfforaethol o 19% i 24% er mwyn codi £12 biliwn ychwanegol, a chodi treth enillion cyfalaf i’r un gyfradd â threth incwm. Gallai’r Canghellor hefyd ostwng rhyddhad treth ar bensiynau a chodi trethi tanwydd.
Mae’n debygol hefyd y bydd llai o arian yn cael ei wario ar helpu gwledydd tlawd y byd wrth i’r gyllideb datblygu rhyngwladol gael ei thorri.
Mae’r Trysorlys yn gwrthod gwneud unrhyw sylw swyddogol ynghylch pa fath o fesurau fydd yn cael eu cynnwys yn y gyllideb ym mis Tachwedd.