Os bydd prifysgolion yn ailddechrau dysgu wyneb yn wyneb gallai arwain at ail don o’r coronafeirws ac argyfwng iechyd cyhoeddus.
Dyna yw rhybudd yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) wrth i brifysgolion baratoi at dderbyn tua miliwn o fyfyrwyr ledled Prydain yn ôl yn y mis nesaf.
Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Jo Grady, gallai’r symudiad torfol hwn olygu mai prifysgolion fydd canolbwynt unrhyw ail don o’r Covid.
Mae hi hefyd yn cyhuddo’r Llywodraeth o ddiffyg cynllunio, gyda rhagolygon o fwy o fyfyrwyr na’r arfer mewn prifysgolion yn sgil y ffrae am raddau Lefel A – wrth i’r haint gynyddu ymysg pobl iau.
“Mae’r union bobl sy’n cael eu heintio’n gynyddol gan y feirws yn cael eu hannog i symud mewn niferoedd mawr o gwmpas y wlad i fyw gyda’i gilydd,” meddai. “Dyw hyn yn gwneud dim synnwyr.”
Mae’r UCU yn galw ar fyfyrwyr i osgoi campysau tan y Nadolig oni bydd cynllun profi yn dechrau gweithredu mewn prifysgolion.
Daw hyn ar ôl i grwp o wyddonwyr argymell bod pob myfyriwr a staff yn cael eu profi am y coronafeirws wrth iddyn nhw gyrraedd y colegau, ac osgoi dysgu wyneb yn wyneb.