Mae Plaid Cymru yn galw am fwy o gefnogaeth i sector twristiaeth ac adloniant Cymru wrth i’r cynllun ffyrlo ddod i ben

Mae Helen Mary Jones AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, yn pwyso  am ymestyn y cynllun ar gyfer sectorau sydd – hyd yma – wedi methu agor, neu’n methu agor yn broffidiol.

Datgelodd arolwg diweddar o 801 o berchnogion busnes twristiaeth yng Nghymru ddechrau’r mis fod 22% o fusnesau heb allu agor, gyda 47% o atyniadau twristiaeth Cymru dal ar gau. Nid oes newyddion eto ynglŷn â phryd y gallai theatrau, neuaddau cyngerdd a lleoliadau cerddoriaeth eraill agor yng Nghymru.

Gyda Chynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod i ben ar 31 Hydref 2020, bydd gan fusnesau sy’n aros ar gau ar ôl y dyddiad hwn “benderfyniad torcalonnus, ond anochel i’w wneud” meddai Helen Mary Jones AS.

Dywed fod biliynau o daliadau ffyrlo i fusnesau wedi eu gwneud yn ystod y pandemig. Os caiff staff gael eu diswyddo o 1 Tachwedd ymlaen wrth i’r cynllun ddod i ben bydd hyn yn wastraff o’r arian hwnnw.

“Mae’n amlwg y bydd rhai sectorau o’r economi yn cymryd llawer mwy o amser i wella nag eraill,” meddai. “Yng Nghymru, mae rhai rhannau o letygarwch a’r rhan fwyaf o ddiwydiant y celfyddydau yn dal ar gau i ffrydiau incwm.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am hyn hefyd. Os na fydd San Steffan yn ymestyn y cynllun ffyrlo i’r sectorau yr effeithir arnynt fwyaf, yna mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar ba gymorth y gallent ei ddarparu.”