Mae arbenigwyr wedi cyhoeddi canllawiau newydd sy’n annog cleifion y galon i ymarfer corff yn rheolaidd.

Yn ôl Cymdeithas Cardioleg Ewrop (ESC), mae’r math o ymarfer corff sy’n cael ei argymell i oedolion iach yn llesol i bobl sy’n dioddef o glefyd y galon hefyd.

Mae gweithgareddau cryfhau fel codi pwysau yn cael eu hannog deirgwaith yr wythnos, law yn llaw ag ymarfer aerobig egnïol fel beicio, rhedeg neu nofio i bobl sy’n ordew, neu sydd â phwysedd gwaed uchel neu diabetes.

Gall y mwyafrif o bobl sydd â chlefyd rhydwelïau coronaidd – coronary artery disease, sef y math mwyaf cyffredin o glefyd y galon – chwarae gemau cysadleuol neu amatur hefyd.

Meddai cadeirydd y tasglu sydd wedi paratoi’r canllawiau, yr Athro Sanjay Sharma o Brifysgol Llundain:

“Mae’r siawns o ymarfer corff yn achosi trawiad ar y galon yn hynod o isel, er y dylai pobl sy’n byw bywydau cwbl lonydd ymgynghori â’u meddyg cyn cychwyn cymryd rhan mewn chwaraeon.

“Mae gweithgarwch corfforol yn dda i bawb sydd â chlefyd y galon ac mae hyd yn oed symiau bach yn llesol.

“Gobeithio y bydd y canllawiau hyn yn helpu cleifion a’u meddygon ddewis y gweithgareddau gorau a’r rhai sy’n rhoi mwyaf o fwynhad iddyn nhw.”

Caiff y canllawiau eu cyhoeddi wrth i Gyngres yr ESC, y cynulliad mwyaf yn y byd o arbenigwyr cardiofasgwlaidd, cael ei chynnal o Awst 29 tan Fedi 1.