Gallai archfarchnadoedd Prydain haneru eu defnydd o blastig untro yn y pum mlynedd nesaf, yn ôl ymgyrchwyr amgylcheddol.

Mae adroddiad cynhwysfawr newydd gan Greenpeace yn annog camau fel rhoi’r gorau i becynnu ffrwythau a llysiau a throi at boteli y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer diodydd meddal.

Yn ôl yr adroddiad, cafodd 114 biliwn darn o becynnau plastig eu defnyddio gan archfarchnadoedd Prydain y llynedd ac mae’n argymell targedu 54 o fathau penodol o nwyddau groser er mwyn creu gostyngiad sylweddol.

Mae’r mudiad yn galw ar y Llywodraeth i osod targedau llym i haneru’r defnydd o blastigau untro mewn archfarchnadoedd erbyn 2025.

Mae Nina Schrank, ymgyrchydd plastigau Greenpeace UK, yn cydnabod bod troi’r llanw’n ôl ar lygredd plastig am fod yn her fawr.

“Ni fydd yn hawdd, ond fe fydd yn bosibl, a chredwn y gall archfarchnadoedd Prydain wneud hyn,” meddai.