Er na fu marwolaeth arall yn sgil y coronafeirws yng Nghymru dros y cyfnod 24-awr diwethaf, mae nifer yr achosion newydd o’r haint yn peri pryder.
Gyda 40 o achosion newydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw a 35 ddoe, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n rhybuddio pobl ifanc o bwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol.
“Mae ein hymchwiliadau wedi nodi bod diffyg cadw pellter cymdeithasol, yn enwedig gan leiafrif o’r grŵp oedran 20-30 oed, wedi arwain at ledaenu’r feirws i grwpiau eraill o bobl,” meddai Dr Robin Howe o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Hoffwn apelio’n uniongyrchol i bobl ifanc i gofio, hyd yn oed os ydynt yn meddwl na fyddai COVID-19 yn effeithio’n wael arnynt, pe byddent yn ei drosglwyddo i aelodau hŷn neu fwy agored i niwed o deulu, ffrindiau neu gydweithwyr, gallai fod yn hynod o ddifrifol, hyd yn oed yn angheuol.”
Daw’r rhybudd ar ôl i glwstwr o achosion gael eu darganfod ym Merthyr Tudful, lle mae 13 o bobl wedi profi’n bositif. Mae ymchwiliadau olrhain yn parhau, a chred yr awdurdodau fod yr achosion yn deillio o bobl a wnaeth ddal yr haint pan oedden nhw dramor.
Parhau hefyd mae ymchwiliad Iechyd Cyhoeddus Cymru i achosion o’r haint mewn tafarn yn Wrecsam. Maen nhw’n atgoffa cwsmeriaid tafarn y North and South Wales Bank yn y dref i fod yn effro i symptomau’r Covid-19.
“Dylai unrhyw un a fu yn y dafarn rhwng 9 a 20 Awst 2020 sy’n datblygu symptomau, hyd yn oed os nad ydyn nhw ond yn rhai ysgafn, hunanynysu ar unwaith a chael prawf,” meddai Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn y cyfamser, mae 88 o achosion newydd o’r haint wedi eu cadarnhau yn yr Alban hefyd dros y cyfnod 24-awr diwethaf, y nifer uchaf ers wythnos, ac 89 yng Ngogledd Iwerddon. Does dim marwolaethau newydd wedi eu cofnodi yn y naill na’r llall o’r ddwy wlad. Fe fu farw chwe chlaf arall a oedd wedi profi’n bositif i’r coronafeirws yn Lloegr dros yr un cyfnod.