Mae Llywodraeth Cymru’n neilltuo arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymorth i fenywod sydd wedi dioddef trais yn ystod y cyfnod cloi.

Dywed y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Jane Hutt fod Covid-19 a’i effeithiau ar fywyd bob dydd wedi cynyddu difrifoldeb y risg o drais yn erbyn menywod, camdriniaeth domestig a thrais rhywiol. Ychwanegodd fod y gostyngiad yn nifer y galwadau i linell gymorth Byw Heb Ofn Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni yn achosi pryder, ond ei bod yn rhagweld cynnydd yn y galw am gymorth wrth i’r cyfyngiadau lacio.

“Mae pobl sy’n cyflawni camdriniaeth ddomestig wedi manteisio ar y cyfyngiadau ar symud i reoli mwy fyth, gan atal y dioddefwyr a’r goroeswyr rhag cael preifatrwydd a chyfle i gyrraedd at wasanaethau cymorth a chefnogaeth,” meddai.

“Wrth i’r cyfyngiadau ar symud gael eu llacio, ac wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol yr wythnos nesaf, bydd dioddefwyr yn cael mwy o gyfle i ymddiried mewn ffrindiau, aelodau’r teulu a gweithwyr proffesiynol, a gofyn am y cymorth sydd ei angen.

“Rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid a darparwyr arbenigol i helpu gwasanaethau i ailgychwyn gweithio wyneb yn wyneb mewn amgylchedd diogel, gan ddefnyddio sgriniau tisian, cyfarpar diogelu personol a mesurau cadw pellter cymdeithasol.

“Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais, neu sy’n pryderu am berthynas, ffrind neu gymydog, i gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn – dros y ffôn, e-bost, neges destun neu sgwrsio byw.”

Ailgychwyn gwasanaethau

Dywedodd Fflur Emlyn, o Ganolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru fod y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wedi eu galluogi i ailgychwyn gwasanaethau wyneb yn wyneb gyda phlant ac oedolion yn y gogledd.

“O ganlyniad i’r pandemig Covid-19, cafodd pob gwasanaeth wyneb yn wyneb ei ohirio a bu’n rhaid parhau’n ddigidol,” meddai. “Ond bu’n rhaid i’n gwaith therapiwtig gyda phlant dan 11 oed ddod i ben wyneb yn wyneb ac yn ddigidol, gan nad oedd yn ymarferol parhau.

“Mae’r cyllid hwn wedi cyfrannu at gyfarpar diogelu personol a’n helpu i ailgychwyn ein holl wasanaethau i oedolion a phlant sydd wedi goroesi camdriniaeth rywiol yn y gogledd, gan gynnwys ein gwaith gyda’n cleientiaid ifanc iawn.”