Mae dau o drefnwyr y rêf anghyfreithlon a ddenodd 3,000 o bobl i ardal Banwen uwchlaw Cwm Nedd wedi cael dirwy o £10,000 yr un.

Roedd tyrfa o tua 1,000 o bobl yn dal yno neithiwr – er gwaethaf deddfwriaeth argyfwng coronafeirws sy’n gwahardd cynulliadau o fwy na 30 o bobl.

“Mae digwyddiadau anghyfreithlon fel hyn yn cael effaith sylweddol ar y gymuned, ac mae’r rheini sy’n dod at ei gilydd fel hyn yn gwbl anghyfrifol,” meddai’r Uwcharolygydd Jason James o Heddlu De Cymru.

Yn y cyfamser mae heddluoedd ledled Prydain wedi addo “gwneud popeth o fewn ein gallu” i erlyn trefnwyr rêfs anghyfreithlon ar ôl digwyddiadau tebyg ar hyd a lled Lloegr yn ogystal dros y penwythnos.

Dywed Heddlu Llundain eu bod nhw wedi cau 21 o ddigwyddiadau cerddorol anghyfreithlon ar ôl i 58 digwyddiad gael eu riportio iddyn nhw ddydd Sadwrn. Fe fu’r heddlu’n cymryd camau yn erbyn digwyddiadau tebyg yn Swydd Efrog, Norfolk ac Essex yn ogystal.