Mae ymgeisydd Llafur Môn ar gyfer San Steffan yn dysgu siarad Cymraeg, yn frwd o blaid cael ail atomfa niwclear ar yr ynys, ac yn chwythu’r trombôn mewn band pync-ska…
Dyn ifanc 32 oed a gafodd ei eni yn yr Eidal ond sydd â chysylltiadau â’r Fam Ynys yw ymgeisydd y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol ym Môn.
Bu Ieuan Môn Williams yn gweithio yn swyddfa Seneddol Albert Owen, y Llafurwr fu’n cynrychioli pobol Ynys Môn yn San Steffan rhwng 2001 a 2019, a’i obaith yw cipio’r sedd yn ôl i Lafur.
Yn etholiad 2019, bu syndod mawr wrth i Virginia Crosbie ennill y sedd ar ran y Ceidwadwyr, a hynny am y tro cyntaf ers dyddiau Maggie Thatcher yn 1983.
Adeg yr etholiad diwethaf, gyda Boris Johnson a’i gri ‘Get Brexit Done’, Virginia Crosbie aeth â hi gyda gogwydd o 9.8% o’r Blaid Lafur i’r Ceidwadwyr.
Y tro hwn mae Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Môn, yn ymgeisydd cryf iawn ar ran Blaid Cymru, ond mae disgwyl i Lafur roi her iddi wrth i’r Blaid Geidwadol ffeindio’i hun mewn diawl o dwll.
Yn ôl yr arolygon barn diweddaraf a gafwyd ym mis Ebrill gan YouGov, mae Plaid Cymru yn ffefrynnau i gipio’r sedd gyda 31% o ymatebwyr yn dweud eu bod am bleidleisio drosti, gyda Llafur yn ail efo 25%, â’r Ceidwadwyr yn olaf o’r tri ceffyl yn y ras ac ar 19%.
Ond mae’r ddwy blaid fawr yn gwneud eu gorau glas i ennill Môn Mam Cymru, ac wedi anfon eu top dogs yno eleni.
Bu i’r Prif Weinidog Rishi Sunak ddewis Ynys Môn fel lleoliad i arddangos buddiannau polisïau codi’r gwastad nôl ym mis Chwefror, a daeth Keir Starmer i Gaergybi ym mis Mawrth, ynghyd â Phrif Weinidog Cymru Vaughan Gething, i gyhoeddi cynlluniau i greu Cwmni Ynni Prydeinig.
Felly mae Ynys Môn am fod yn sedd hynod ddiddorol i gadw llygaid arni wrth i’r etholiad cyffredinol ddod yn nes ac yn nes – mae’n rhaid cynnal un cyn diwedd mis Ionawr, 2025.
Ond tra bo Llinos Medi a Virginia Crosbie yn wleidyddion adnabyddus ar yr ynys, prin fu’r sylw i’r ymgeisydd Llafur.
Felly aeth Golwg i holi’r dyn ifanc sy’n dysgu siarad Cymraeg ac eisiau cynrychioli’r etholaeth yn San Steffan…
Ieuan Môn
Yn gyntaf, pam Ieuan Môn? Prin iawn yw’r gwleidyddion sydd ag enw’r etholaeth yn enwau canol…
Roedd ei rieni – a gafodd eu geni ym Môn – yn awyddus i roi Môn yn enw canol i Ieuan fel ei fod o ddim yn anghofio ei wreiddiau – ac mae ei enw canol yn sicr yn handi o safbwynt ymgyrchu gwleidyddol ar yr ynys.
Cafodd Ieuan Môn ei eni yn Naples, yr Eidal, gan fod ei dad wedi ei leoli yno tra yn gweithio i’r Awyrlu Brenhinol – yr RAF.
Er ei fod wedi mwynhau ei amser yn yr Eidal, nid oedd ganddo ddiddordeb mewn dinasyddiaeth ddeuol oherwydd y risg o orfod gwneud gwasanaeth milwrol cenedlaethol, rhywbeth mae o rŵan yn ddifaru, yn enwedig ar ôl Brexit.
Mae Ieuan yn cyfrif ei hun yn “lwcus” o fod wedi cael symud gyda’i deulu o Naples i fyw ym mhentref y Fali ym Môn, ble mae safle’r RAF, a lle’r oedd ei neiniau a theidiau eisoes yn byw.
“Mi’r oeddwn i’n lwcus iawn, o safbwynt y ffaith bod llawer o blant milwrol ddim yn gallu gwario llawer o amser efo nain a thaid. Ond i fi, gefais lawer o amser efo nhw ar yr ynys lle cefais fy magu.”
Yn ddiweddarach bu yn rhaid i Ieuan symud o gwmpas Ewrop efo’i rieni i lefydd fel Brwsel, ond roedd ymweliadau cyson yn ôl i’r Fam Ynys.
“Pob Dolig, Pasg, hanner tymor, roedden ni adra. Felly er fy mod wedi symud o gwmpas lot ac wedi byw mewn llefydd gwahanol, ond un lle sydd erioed wedi bod yn ‘adra’ i fi, a’r ynys yw’r fan honno.”
Yn fyfyriwr, astudiodd Ieuan y trombôn yn Ysgol Gerddorol Guildhall yn Llundain, lle bu Syr Bryn Terfel yn gyn-ddisgybl.
“Os oedd o’n ddigon da iddo ef, roedd o’n ddigon da i mi,” meddai Ieuan, cyn ychwanegu fod Bryn Terfel “yn wir wedi ei gwneud hi fel cerddor, a tydw i ddim, eto”.
Mae Ieuan yn dal i chwythu’r trombôn, a hynny mewn band pync-ska o’r enw The Popes of Chillitown.
Yn ei ugeiniau cynnar fe benderfynodd y cerddor ei fod am droi yn anifail gwleidyddol a bu ymgais aflwyddiannus ganddo i ddod yn gynghorydd yn Hampshire, un o siroedd de ddwyrain Lloegr.
“Ar ôl blynyddoedd o fod yn wleidyddol ond yn gwneud ymdrech i gadw’r wleidyddiaeth mewn bocs bach, yn 2015 dechreuais gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol pan roeddwn yn byw yng Ngogledd Ddwyrain Hampshire.
“Dewisais wedyn fy mod am ymuno gyda’r Blaid Lafur…
“Byddwn yn dweud mai fy nghred wleidyddol i ydi y dylai diwrnod caled o waith fod yn creu digon o arian i chi fedru talu am chi eich hun a’ch teulu.”
Ers iddo benderfynu troi at wleidydda, mae wedi bod yn byw yn Walthamstow yn Llundain gyda’i wraig a’i fab ac yn ddiweddar mae wedi symud i fyny i Fôn a thref Caergybi ar gyfer ymgyrchu.
Starmer yn glust i Gymru
Daw yn amlwg o sgwrsio gydag Ieuan Môn Williams bod Albert Owen yn ddylanwad mawr arno, ac yn greiddiol i’r ffaith ei fod yn sefyll fel ymgeisydd y Blaid Lafur ym Môn.
“Pan roeddwn i’n byw ym Mrwsel ar un noson yn 2001, dwi’n cofio clywed rhyw sŵn od o lawr grisiau yng nghanol y nos,” meddai.
“Roedd hynny oherwydd bod mam wedi aros fyny i wylio’r rhaglen etholiad ac wedi mynd yn wallgof wrth weld bod Albert wedi ennill.”
14 mlynedd wedi’r fuddugoliaeth honno, pan gipiodd Llafur y sedd oddi ar Blaid Cymru, roedd Ieuan yn gweithio fel intern ar brofiad gwaith yn swyddfa Albert Owen yn San Steffan. Yna fe gafodd swydd lawn amser gydag Albert Owen yn Gymhorthydd Seneddol.
Ac roedd ei amser yn gweithio i Albert Owen yn cyd-daro â refferendwm gadael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016 ag etholiad cyffredinol 2017 pan oedd Jeremy Corbyn yn arwain y Blaid Lafur.
Erbyn hyn mae Corbyn yn hen hanes wrth gwrs, ac mae Ieuan Môn Williams yn ffyddiog y bydd Keir Starmer – os y daw yn Brif Weinidog Prydain – yn rhoi chwarae teg i Gymru.
“Beth rydym yn ei wybod yw y bydd Keir yn Brif Weinidog sydd yn mynd i godi’r ffôn a siarad gyda Phrif Weinidog Cymru, a bydd hynny yn ei hun yn chwyldroadol o gymharu efo beth sydd gennym ni ar hyn o bryd.”
Mae eisoes esiampl o’r ymrwymiad hwn, meddai, gydag ymweliad Keir Stamer a Vaughan Gething â Chaergybi ym mis Mawrth i gyhoeddi cynllun i greu cwmni ynni glân ar lefel Brydeinig fydd werth £8.3bn. Yn ôl Ieuan Môn, mae cael sylw fel yma i’r Ynys yn rhywbeth “nad yw arian yn gallu prynu”.
Roedd Ieuan hefyd yn awyddus i bwysleisio’r angen i fod yn onest gyda’r cyhoedd ac egluro bod “tua degawd o adnewyddu cenedlaethol” yn wynebu gwledydd Prydain, er mwyn ennill ffydd y bobl.
“Mae yna lot o ddifaterwch yn y wlad yma a drwgdybiaeth am ein gwleidyddion. Mae yn rhaid i ni wneud pob dim i adfer eu ffydd yng ngallu gwleidyddiaeth i wneud gwahaniaeth.”
Dysgwr Cymraeg
Fe gafodd Ieuan Môn Williams ei gyfweld yn Saesneg gan Golwg, ond mae’n dweud ei fod yn anelu at ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl.
Bu ar gwrs preswyl am wythnos i’r ganolfan dysgu Cymraeg i oedolion yn Nant Gwrtheyrn yn ddiweddar, ac mae’n cael help wrth ymarfer ei Gymraeg adref ar yr aelwyd.
“Dwi’n hynod o lwcus bod fy ngwraig yn gallu siarad Cymraeg felly rydym yn siarad lot pan rydym adra, ond mae dysgu iaith yn anodd iawn.
“Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod ein mab hefyd yn gallu siarad Cymraeg.”
Yn ôl Cyfrifiad 2021 roedd 55.8% o drigolion yr ynys yn medru siarad Cymraeg, ac mae Ieuan Môn am ddod yn un o’r rheiny.
“Pan rwyf fyny ar yr Ynys, dw i mewn rhyw fath o broses ymgyrchu, felly mae o’n bwysig iawn i fi fy mod yn gallu cynnal sgyrsiau yn y Gymraeg, a bydd hyn yn hyd yn oed yn fwy pwysig os fydda i’n cael fy ethol i gynrychioli’r Ynys.”
“Heb swyddi, iaith ddim yn ffynnu”
O ran sefyllfa’r Gymraeg ar yr ynys, mae ymgyrchwyr iaith yn poeni am effaith Tai Haf a’r syniad o gael atomfa niwclear newydd ar safle’r Wylfa.
Ond mae Ieuan Môn o blaid Wylfa newydd ac yn credu y byddai yn cryfhau’r iaith Gymraeg wrth ddenu swyddi da i’r ardal.
“Dwi’n ei gael o’n rhwystredig. Er enghraifft, pan mae datblygiadau newydd fel Wylfa yn dod i mewn, rhai sydd efo’r gallu i adfywio’r economi lleol, mae pobl yn dweud: bydd y Wylfa yn gwanhau’r iaith Gymraeg!”
Mae yn cydnabod y byddai atomfa niwclear newydd yn denu mewnlifiad o weithwyr i’r ynys, ond yn credu fod hynny yn beth da. Bu i’r gwaith adeiladu ar Atomfa’r Wylfa wreiddiol ger Bae Cemaes gychwyn yn 1963 a bu yn hwb i’r iaith Gymraeg, yn ôl Ieuan Môn.
“Yn wir, daeth pobl o Loegr ac o gwmpas y byd i weithio yn Wylfa, ond mi ddaru llawer o’r bobl yna setlo i lawr, magu teuluoedd a phlant, oedd yn mynd i’r ysgol leol, ac maen nhw i gyd yn siarad Cymraeg.”
Mae ei neges yn syml – dim iaith heb waith.
“Heb y buddsoddiad yma mewn swyddi, dydi’r iaith ddim yn gallu ffynnu… oherwydd beth sy’n digwydd ydi bod pobl ifanc sydd yn gallu siarad Cymraeg yn gorfod gadael oherwydd prinder swyddi.”
Os ddaw yn Aelod Seneddol Ynys Môn, sicrhau ail atomfa niwclear ym Môn fydd blaenoriaeth rhif un Ieuan, meddai.
“Does yna ddim byd sy’n gallu dod â’r lefelau o drawsnewid economaidd fel y bysa gorsaf bŵer niwclear newydd. Does yna ddim byd yn dod yn agos.”
Nid yw Atomfa’r Wylfa wedi cynhyrchu trydan ers 2015, ond mae gweithwyr yn parhau ar y safle ar gyfer y broses dadgomisiynu – ac yn eu plith y mae taid Ieuan Môn Williams.
Rhwng 2018 a 2023 bu Ieuan yn gweithio i’r Nuclear Industry Association, corff Prydeinig sy’n brolio mae niwclear yw’r “unig ffynhonnell o ynni glân sydd ar gael 24/7”.
A daw yn amlwg wrth siarad gyda’r ymgeisydd Llafur, ei fod yn frwd o blaid y diwydiant sy’n hollti barn ar hyd a lled Môn a Chymru a thu hwnt.
Celpio’r Ceidwadwyr, bychanu Plaid Cymru
Ers 2019 mae’r Geidwades Virginia Crosbie wedi cynrychioli Môn yn San Steffan, ac mae ei gwrthwynebydd Llafur yn yr etholiad nesaf yn llym iawn ei feirniadaeth o’i chyfnod.
Yn ôl Ieuan Môn Jones, mae Virginia Crosbie wedi bod yn “fethiant”.
“Ers iddi hi gael ei hethol, mae yna dal colled net o swyddi wedi bod ar yr ynys.”
A beth am y ffefryn i gipio’r sedd?
Yn ôl y pôl piniwn diweddaraf yna, Llinos Medi o Blaid Cymru sydd am fynd â hi.
Mae Ieuan Môn yn dweud ei bod yn “hawdd i bleidiau bach fod yn swnllyd” ar faterion gwleidyddol, a chodi cnecs am etholiadau mewnol fel rydym wedi gweld yn achos helynt ethol Vaughan Gething yn Brif Weinidog Cymru.
Mae Ieuan Môn Williams yn barod iawn i’w dweud-hi am ei wrthwynebwyr, felly, ac efallai bod hyn yn dangos bod y ras i gynrychioli Ynys Môn am boethi wrth i’r etholiad agosáu.