Cymru 2024: cwmni parcio wedi rhoi dirwy uniaith Saesneg, a’r Cymro sy’n gwrthod ei dalu yn cael ei gosbi.
Nôl yn 2011 fe wnaeth Llywodraeth Cymru’n Un – clymblaid Lafur a Phlaid Cymru – greu swydd y Comisiynydd Iaith a rhoi’r hawl iddi roi dirwy o hyd at £5,000 i gyrff cyhoeddus sydd ddim yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg.
Does yr un cyngor sir nag awdurdod iechyd erioed wedi ei ddirwyo fel hyn, wrth gwrs, ond mae’r bygythiad yn bodoli.