“Mae Japan yn grud i lawer o’r syniadau sydd gennym ni am greu gardd…”

Mae’r garddwr brwd Meinir Gwilym wedi bod draw i Japan, gan ddisgrifio’r daith fel “dipyn o bererindod” i unrhyw un sy’n trin y tir.

Drwy lwc, roedd y gantores boblogaidd yno tra’r oedd y coed ceirios enwog yn blaguro a’r gwanwyn ar ei anterth yn y gerddi Japaneaidd.