Ar ddiwedd wythnos arall sydd wedi bod yn ddamniol iawn i’r Prif Weinidog, Vaughan Gething, dw i am gychwyn efo elfen fwy goleuol i’r hyn sydd wedi bod yn mynd ymlaen o fewn waliau Parc Cathays.
Rhaid cyfaddef, beth bynnag fo’ch perswâd gwleidyddol, mae’n anodd cofio amser pan oedd gwleidyddiaeth yng Nghymru mor gyffrous.
Dydy hyn ddim i ddweud nad yw’r materion sydd ynghlwm â’r ddadl yn bwysig, yn bell ohoni, ond mae’r agwedd Maciaveliaidd yma i ddatblygiad y stori yn sicr wedi tynnu sylw, a hynny o du allan i Gymru hefyd.
“Felly mae (yn honedig) rhyddhau negeseuon o grŵp WhatsApp preifat (honedig), nad oedd i wneud â’r Llywodraeth, yn erbyn y rheolau ac yn gamwedd sy’n haeddu diswyddiad,” medd yr Athro Richard Wyn Jones ddoe (Mai 16).
“Tra bo derbyn £200,000 gan droseddwr i ennill ras arweinyddol drwy wario llawer iawn mwy na’r ymgeisydd arall o fewn y rheolau ac yn iawn.”
Dyma oedd neges yr Athro Richard Wyn Jones ar X wrth ymateb i’r ffaith fod Vaughan Gething wedi gofyn i Hannah Blythyn, yr Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol Cymru ar y pryd, adael y llywodraeth.
Erbyn hyn, mae’r swydd wedi’i llenwi gan Sarah Murphy AoS, sydd yn cymryd ei lle yn y llywodraeth am y tro cyntaf.
Mae penderfyniadau’r Prif Weinidog, a’r moesoldeb tu ôl i’r penderfyniadau, wedi bod dan sylw cadarn parhaol drwy gydol y ddeufis mae e wedi bod yn y swydd.
Yng nghanol yr holl straeon am y diswyddiad, a’r £31,000 yn cael ei roi gan ymgyrch arweinyddol y Prif Weinidog i’r Blaid Lafur, chafodd prin ddim sylw ei roi i lansiad gweledigaeth Jeremy Miles ar gyfer yr economi.
Ar un pwynt, roedd hi’n edrych fel bod lansiad meddal ymgyrch etholiad cyffredinol Keir Starmer yn Essex ddoe o dan gwmwl Bae Caerdydd Vaughan Gething hefyd.
Wrth ymateb i gwestiwn gan Chris Mason o’r BBC am y diswyddiad, dywedodd Keir Starmer: “Dydw i ddim yn gwybod y manylion am be ddigwyddodd bore yma.”
Roedd erthygl ar y diswyddiad yn gyntaf ar restr straeon mwyaf poblogaidd ITV o flaen cyhoeddiad Starmer, sy’n dangos ei bod hi’n stori fawr.
Ac o siarad efo nifer yn y Senedd, ac o weld dyfyniadau gan bobol o fewn y Blaid Lafur gan Nation.Cymru ddoe, mae’n debyg fod y cymylu yma ar ymgyrch Keir Starmer am benderfynu a yw Vaughan Gething am oroesi ai peidio.
“Gallet ti ddweud mai penderfyniad mewnol o fewn y Blaid Lafur fydd hyn, ond dw i’n amau na phenderfyniad Keir Starmer fydd o ar ddiwedd y dydd,” meddai Mabon ap Gwynfor i golwg360.
“Y tristwch ydy mai’r Blaid Lafur yn Lloegr sydd yn penderfynu ar ddyfodol Cymru eto. Mae angen i aelodau’r Blaid Lafur yng Nghymru godi eu llais a datgan eu hanfodlonrwydd.”
Yn wir, os yw Keir Starmer yn gweld Vaughan Gething fel rhwystr etholaethol yn hytrach nag ased, mae’n siŵr bydd y penderfyniad yn cael ei wneud i symud ymlaen a gadael Vaughan Gething ar ôl. Ond be os ddim?
Pleidlais o ddiffyg hyder?
Fel gwelsom ddoe, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn ystyried opsiynau i gynnig pleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog.
Wrth ymateb i gwestiwn gan golwg360 ddoe ynglŷn ag a fyddai’n pleidleisio o blaid cynnig o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog, dywedodd Mabon ap Gwynfor nad oes ganddo hyder yn Vaughan Gething fel Prif Weinidog.
Yn wleidyddol, mae hyn yn safbwynt go ddiddorol.
Gan fod Aelod o’r Senedd o Blaid Cymru wedi bod mor agored yn ei farn bod rhaid cael arweinydd sydd, yn ei eiriau o yn “well na hyn”, mae Plaid Cymru am fod mewn sefyllfa lle bydd pwysau aruthrol i bleidleisio er mwyn cael gwared ar y Prif Weinidog – a hynny ar amser pan nad yw ambell amcan yn y Cytundeb Gydweithio wedi’u cadarnhau.
Wrth gwrs, mae Plaid Cymru’n dadlau bod y ddwy sefyllfa ar wahân, ond o safbwynt gwleidyddol, mae’n bosib gweld sefyllfa lle mae Plaid Cymru yn kingmaker.
Mae hyn yn bwynt mwy amserol gan fod golwg360 yn deall bod o leiaf un neu ddau aelod o’r senedd Llafur yn barod i bleidleisio yn erbyn y Prif Weinidog pe bai bleidlais o’r fath yn digwydd.
Does ddim rhaid edrych yn bellach na sefyllfa Hannah Blythyn ei hun, a’r ffaith bod hi’n ffigwr mor boblogaidd o fewn yr aelodaeth seneddol, i weld pam fod hyn yn wir.
Pe bai pleidlais dim hyder ar y gorwel, a bod unrhyw gwestiwn dros fuddugoliaeth i Vaughan Gething, dyna pryd fydd Starmer yn debygol o dynnu’r gefnogaeth ar ei arweinyddiaeth.
Does dim amheuaeth y byddai cael arweinydd Llafur yn cael eu pleidleisio allan o lywodraeth yn newyddion llawer gwaeth i Starmer nag ymddiswyddiad Gething.
Ond arhoswn, a gweld be ddigwyddith yn ystod yr wythnos nesaf yn opera sebon gwleidyddiaeth Cymru.