Mae Plaid Cymru wedi dod â’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ben ar unwaith.

Dywed Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru, ei fod yn “bryderus iawn” bod Vaughan Gething wedi methu ag ad-dalu’r rhodd o £200,000 dderbyniodd yn ystod y ras arweinyddol.

Cafodd yr arian ei roi gan Dauson Environmental Group, sy’n cael ei redeg gan ŵr sydd wedi cael ei ganfod yn euog o droseddau amgylcheddol ddwywaith.

Dywed Rhun ap Iorwerth hefyd bod ganddo bryderon am agwedd Llywodraeth Cymru tuag at rai elfennau o’r Cytundeb Cydweithio, gan gynnwys y penderfyniad i ohirio gweithredu i gefnogi’r teuluoedd tlotaf yn y wlad.

Wrth ymateb, dywed y Prif Weinidog ei fod yn siomedig bod Plaid Cymru wedi “penderfynu cerdded i ffwrdd o’u cyfle i gyflawni dros bobol Cymru”, ond ei fod yn diolch i Aelodau Dynodedig Plaid Cymru ar gyfer y Cytundeb am eu gwaith.

Ers i’r Cytundeb Cydweithio gael ei sefydlu gan y cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford ac Adam Price, cyn-Arweinydd Plaid Cymru yn 2021, mae amcanion fel cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, camau i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a chreu cwmni ynni cenedlaethol wedi’u cyflawni.

Daw’r cyhoeddiad gan Blaid Cymru wedi i Vaughan Gething ddiswyddo Hannah Blythyn, Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol ei gabinet, ddoe (Mai 16), gan ddweud ei bod hi wedi rhyddhau gwybodaeth i’r wasg.

Mae Hannah Blythyn yn gwadu’r honiadau yn ei herbyn, a bellach mae Sarah Murphy, Aelod o’r Senedd Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cymryd ei lle yn y cabinet.

‘Pryderus iawn’

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywed Rhun ap Iorwerth ei fod yn falch o sut ddangosodd y Cytundeb bod math newydd o wleidyddiaeth yn bosib “gan ganolbwyntio ar feysydd polisi sy’n effeithio ar fywydau beunyddiol pobol”.

“Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, ehangu’r cynnig gofal plant am ddim i filoedd yn fwy o deuluoedd, cymryd camau radical i fynd i’r afael â’r argyfwng tai, camau i ddiogelu’r Gymraeg, creu cwmni ynni cenedlaethol Ynni Cymru a mwy,” meddai Rhun ap Iorwerth, gan ddweud bod y cytundeb yn dod i ben ar unwaith.

“Roedd gweithio ar y cyd yn ymateb adeiladol i anhrefn ac ansicrwydd Brexit a’r pandemig Covid, a’r niwed a achosir gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.

“Byddwn yn parhau i geisio sicrhau bod polisïau y cytunwyd arnynt fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio yn cael eu cyflawni.”

Ar yr un pryd, ers dod yn arweinydd, meddai, mae wedi bod yn “benderfynol o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn gadarn”.

“Rwy’n parhau i fod yn bryderus iawn bod y Prif Weinidog wedi methu ag ad-dalu’r rhodd o £200,000 i’w ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol, a chredaf ei fod yn dangos methiant sylweddol o farn,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Mae’r arian dros ben bellach wedi ei drosglwyddo i Blaid Lafur Keir Starmer. Mae’r amgylchiadau sy’n ymwneud â’r penderfyniad i ddiswyddo aelod o’r Llywodraeth yr wythnos hon – ynglŷn â materion a ddylai fod yn gyhoeddus eisoes – yn peri cryn ofid i mi.

“Rwyf hefyd yn bryderus ynghylch am y ffordd mae’r Llywodraeth yn ymagweddu mewn perthynas â rhai elfennau o’r Cytundeb Cydweithio, gan gynnwys y penderfyniad i ohirio gweithredu i gefnogi’r teuluoedd tlotaf yn ein cymunedau, fel y dangoswyd yn fwyaf diweddar yn y penderfyniad i ohirio diwygio’r dreth cyngor.

“Bydd Plaid Cymru yn symud ymlaen gydag ymrwymiad clir a pharhaus i graffu ar record Llafur, gyda phenderfynoldeb o’r newydd i gyflwyno syniadau beiddgar sy’n cyd-fynd ag uchelgeisiau pobl Cymru ar gyfer ein gwlad.”

‘Siomedig’

Dywed Vaughan Gething, y Prif Weinidog, eu bod nhw’n edrych yn fanwl ar sut i symud ymlaen ag ymrwymiadau’r Cytundeb Cydweithio.

“Sylfaen y Cytundeb Cydweithio oedd gwleidyddiaeth aeddfed a chydweithrediad yn y meysydd ble’r ydym gytûn,” meddai Vaughan Gething.

“Er bod hwn wastad wedi bod yn gytundeb â therfyn amser penodol, rydym yn siomedig bod Plaid Cymru wedi penderfynu cerdded i ffwrdd o’u cyfle i gyflawni dros bobl Cymru.

“Hoffwn ddiolch i Sian Gwenllian a Cefin Campbell am eu gwaith drwy’r cytundeb.

“Drwy gydweithio rydym wedi cyflawni llawer iawn, gan gynnwys prydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn ysgolion cynradd, mwy o ofal plant am ddim, pecyn radical o fesurau i greu cymunedau lleol ffyniannus gan helpu pobl i fyw’n lleol ac yn mynd i’r afael â niferoedd uchel o ail gartrefi mewn ardaloedd ledled Cymru.

“Byddwn nawr yn edrych yn fanwl ar sut y gallwn symud ymlaen ag ymrwymiadau’r Cytundeb Cydweithio sy’n weddill, gan gynnwys Bil Addysg y Gymraeg a’r Papur Gwyn ar yr Hawl i Dai Digonol a Rhenti Teg.”

‘Achub eu hunain rhag cywilydd’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn gwrthwynebu’r cytundeb ers y dechrau, ac yn ôl Andrew RT Davies, eu harweinydd, mae dod â’r cytundeb i ben yn “ymdrech gan Blaid Cymru i achub eu hunain rhag cywilydd”.

“Gyda’i gilydd, mae Llafur a Phlaid Cymru wedi cydweithio i fynd ag adnoddau oddi wrth flaenoriaethu pobol a thuag at brosiectau gwagedd fel cael mwy o Aelodau yn y Senedd ym Mae Caerdydd, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn rhan o bolisïau fel y cynllun ffermio cynaliadwy dinistriol a chyflwyno’r cyfyngiad cyflymder 20m.y.a,” meddai Andrew RT Davies, gan ddweud nad yw’r cam yn “golygu dim”.

Bu Plaid Cymru yn galw am newidiadau i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy dadleuol, oedd yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio, ac roedden nhw’n awyddus i weld mwy o hyblygrwydd i ffermwyr.

Mabon ap Gwynfor: “Does gen i ddim hyder yn Vaughan Gething fel Prif Weinidog”

Rhys Owen

Aelod o’r Senedd Dwyfor a Meirionydd yw’r aelod Plaid Cymru cyntaf i ddweud ei fod wedi colli hyder yn y Prif Weinidog

Golwg Rhys ar Wleidyddiaeth: Gething yn gur pen i Starmer

Rhys Owen

“Does dim amheuaeth y byddai cael arweinydd Llafur yn cael eu pleidleisio allan o lywodraeth yn newyddion gwaeth i Starmer nag ymddiswyddiad Gething”