Wrth i Wythnos y Cynnig Cymraeg ddod i ben, mae Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, yn adlewyrchu ar yr achlysur. 


Mae’r wythnos hon wedi bod yn gyfle i ddathlu a rhoi sylw i’r Cynnig Cymraeg. Cyfle i ddathlu’r cyrff sydd yn awyddus i ddatblygu cynlluniau Cymraeg er mwyn gwella eu perthynas gyda’u cwsmeriaid a sicrhau fod gwasanaethau dwyieithog ar gael yn naturiol. Dyna yw hanfod y Cynnig Cymraeg. Does dim rheidrwydd ar y cyrff yma i gynnig gwasanaethau Cymraeg ond Rydyn ni’n croesawu’r ffaith eu bod nhw’n gwneud.

Rwyf yn grediniol fod angen i’n gwaith o hyrwyddo drwy reoleiddio, a thrwy annog, gyd-redeg os am sicrhau fod y Gymraeg am fod yn iaith fyw, naturiol sy’n hawdd i bobl ei defnyddio. Mae rôl y Comisiynydd yn cynnwys sicrhau cydymffurfiaeth cyrff sydd yn dod o dan Safonau’r Gymraeg, ynghyd â chyfrifoldeb i hyrwyddo a hybu’r defnydd o’r Gymraeg ymhob sector.

Mae ein gwaith hybu a hyrwyddo yn mynd o nerth i nerth ac mae’r Cynnig Cymraeg yn rhan bwysig o hynny. Mae’n braf dweud, ers i’r cynllun gael ei lansio yn 2020 fod dros 100 o fusnesau ac elusennau wedi derbyn cymeradwyaeth ac mae wedi bod yn chwa o awyr iach gweld y brwdfrydedd sydd tuag at y cynllun.

Mae’r cyrff sydd wedi ymrwymo yn amrywio o gwmnïau cenedlaethol megis cymdeithas adeiladu’r Principality ac archfarchnadoedd Aldi a Lidl, elusennau adnabyddus fel NSPCC Cymru ac RNIB Cymru i sefydliadau mwy lleol megis GISDA ac Xplore! Braf oedd darllen hanesion nifer o’r rhain ar dudalennau golwg360 yr wythnos hon.

Rwy’n falch o allu dweud mai cynyddu mae’r diddordeb a’n bod yn derbyn ymholiadau yn ddyddiol gan sefydliadau sydd am ddysgu mwy am y Cynnig Cymraeg.

Mae ein gwaith rheoleiddio hefyd yn parhau i gynyddu. Cyn diwedd y flwyddyn galendr hon, byddwn yn gweld mwy o sectorau’n dod o dan y Safonau gan gynnwys cwmnïau rheilffyrdd, cymdeithasau tai a chwmnïau dŵr.

Mae’r wythnos hon wedi bod yn gyfle i roi llwyfan amlwg i’r Cynnig Cymraeg ond mae’r gwaith yn parhau drwy’r flwyddyn. Felly os ydych chi yn pendroni am y Cynnig Cymraeg ac yn ystyried ymgeisio – beth am ddod atom am sgwrs – mae mwy o fanylion ar ein gwefan neu galwch mewn i’n stondin ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Meifod. Byddai’n hyfryd eich gweld.

Mae podlediad arbennig Cynnig Cymraeg wedi ei ryddhau’r wythnos hon gan Gomisiynydd y Gymraeg a gallwch wrando arno fan hyn.

Cynnig Cymraeg Cyngor Celfyddydau Cymru

“Mae’n hanfodol bod gan bawb y modd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn greadigol”

Cynnig Cymraeg RNIB Cymru

“Ewch amdani, mae’n gyfle gwych i wella a hyrwyddo eich gwasanaethau”

Cynnig Cymraeg Celfyddydau SPAN

Elusen gelfyddydau cymunedol egnïol yw SPAN, wedi’i lleoli yn Arberth gyda hanes 30 mlynedd o ddod â’r celfyddydau i sir Benfro wledig

Cynnig Cymraeg Undeb Myfyrwyr Caerdydd

Mae gan yr undeb “hanes cyfoethog o ymgyrchu, datblygu, a chefnogi darpariaeth Gymraeg”, ac maen nhw’n “falch o allu cefnogi’r gwaith yma”