Mae wythnos y Cynnig Cymraeg, yn gyfle i ddathlu y cyrff hynny nad ydyn nhw yn dod o dan gwmpas y Safonau, ond sydd yn awyddus i ddatblygu cynlluniau Cymraeg er mwyn gwella eu perthynas gyda’u cwsmeriaid a sicrhau fod gwasanaethau dwyieithog ar gael yn naturiol. Dyna yw hanfod y Cynnig Cymraeg.
Ers i’r cynllun gael ei lansio yn 2020, mae dros 100 o fusnesau ac elusennau wedi derbyn cymeradwyaeth, ac mae brwdfrydedd tuag at y cynllun.
Bydd cyfle i chi ddarllen mwy am rai ohonyn nhw drwy gydol yr wythnos hon ar golwg360, ac os ydych chi yn awyddus i weithio tuag at gymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg, mae croeso i chi gysylltu â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn elusen â dros 100 o staff llawn amser ac wedi ymrwymo i wella a chefnogi profiad pob myfyriwr wrth iddyn nhw astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Ers penodi Is-Lywydd Iaith, Cymuned a Diwylliant Cymru llawn amser cyntaf eleni, maen nhw wedi bod yn brysur yn datblygu ac ehangu eu darpariaeth Gymraeg. Mae gan fyfyrwyr Caerdydd hanes cyfoethog o ymgyrchu, datblygu, a chefnogi darpariaeth Cymraeg, ac maen nhw’n falch o allu cefnogi’r gwaith yma yn yr Undeb.
Pa wasanaethau Cymraeg ydych chi’n cynnig?
Fel sefydliad sydd â chynrychiolaeth a rhyddid mynegiant wrth galon ein gwerthoedd, rydym yn galluogi unrhyw fyfyriwr i gyfrannu at ein fforymau democrataidd yn Gymraeg, gan sicrhau fod cyfieithu ar y pryd ar gael a bod pecynnau papurau yn cael eu darparu yn ddwyieithog. Mae ein cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol yn aml iawn yn cael ei gynhyrchu’n ddwyieithog ac rydym yn paratoi i fynd â hyn ymhellach fyth.
Rydym hefyd yn y broses o greu gwefan dwyieithog ac yn buddsoddi yn ein gallu cyfieithu er mwyn sicrhau fod y Gymraeg ar gael heb orfod gofyn. Mae hefyd gan bawb yr hawl i gysylltu â ni’n Gymraeg ac rydym wedi ymrwymo i ymateb yn eu hiaith o ddewis, gan edrych i ehangu ein darpariaeth Cymraeg ar draws ein gwasanaethau. Yn ogystal â hyn, rydym yn buddsoddi yn ein gweithlu drwy gynnig gwersi Cymraeg am ddim a chyfleoedd parhaus i ddatblygu eu sgiliau.
O fewn ein hadeilad, mae lleoliadau megis ein neuadd gerddoriaeth, clwb nos, tafarn a mannau aml ddefnydd yn perchnogi eu henwau Cymraeg, ac mae’r Gymraeg i’w gweld ar ein harwyddion, posteri, hysbysfyrddau a chyfarwyddiadau. Nid geiriau ar arwyddion yn yr Undeb yw’r Gymraeg i ni, ond yn hytrach ffordd o weithio, ac rydym ar y llwybr i wella a datblygu mynediad at y Gymraeg i’r 35,000 a mwy o fyfyrwyr sydd yn aelodau o’r Undeb.
Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg o’r penderfyniad i baratoi cynllun i dderbyn cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd.
Fe benderfynom ymgeisio am gydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg er mwyn cydnabod y gwaith sydd wedi cael ei wneud i wella ein cynnig ond hefyd i hybu defnydd o’r Gymraeg yma.
Roedd hi’n broses ddiffwdan a chyfleus i ymgeisio am y gydnabyddiaeth – bu rhaid i ni ateb holiadur, datblygu cynllun, a gweithio â thîm Hybu swyddfa’r Comisiynydd cyn cyflwyno ein
cynllun terfynol i’r Comisiynydd. Roedd y tîm Hybu wastad ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a chynnig cefnogaeth a chyngor wrth ddatblygu ein darpariaeth.
Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg?
Mae derbyn y cynnig yn hynod bwysig i ni er mwyn gallu cadw ati i ddatblygu’r Gymraeg, arddangos beth sydd ar gael, ac annog mwy byth o ddefnydd o’r Gymraeg yn yr Undeb. Prifysgol Caerdydd sydd â’r nifer fwyaf o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yng Nghymru ac mae gallu arddangos yn falch fod cartref i’r Gymraeg yma yn sicrhau fod ein haelodau yn gallu ymfalchio yn yr Undeb fod modd defnyddio’r Gymraeg, ei weld a’i chlywed.
Beth yw’r budd i chi o dderbyn y Cynnig Cymraeg?
Fel elusen, gall sicrhau darpariaeth Cymraeg ddod â chostau ychwanegol a goblygiadau wrth ymateb mewn cyfyngiadau amser tyn, ond mae’r buddion llawer mwy na’r gost. Mae gallu cefnogi ein myfyrwyr, cynnig cyfleoedd newydd a chreu cymuned wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud, ac mae gwneud hynny yn Gymraeg yn dod law yn llaw â’u gilydd.
Fyddech chi’n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham?
Mae derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg yn ein galluogi i gadw ati ac i edrych ar bethau mewn ffyrdd newydd, gan gynnwys llunio polisi iaith newydd erbyn mis Mehefin, a sicrhau fod y gwaith yn parhau i fewn i’r dyfodol. Bysem yn annog unrhyw elusen neu fusnes i fynd amdani, nid yn unig i dderbyn cymeradwyaeth ond hefyd i allu cynnig eu gwasanaethau yn Gymraeg, ac hefyd i sicrhau fod y cyhoedd yn ymwybodol o’r gallu i ddefnyddio eu Cymraeg mewn llefydd nad ydynt i’w ddisgwyl weithiau.
Oes gyda chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg?
O ran geiriau o gymorth, ewch amdani, peidiwch dal yn ôl, a pheidiwch a bod ofn gofyn am gymorth. Mae niferoedd o’r gofynion yn rai hawdd i’w cyflawni ac mae gwneud y pethau bychain yn aml iawn yn sicrhau fod y darlun ehangach yn sicrhau lle i’r Gymraeg ac o ymfalchïo yn hynny.