Ar Ddiwrnod Ffermio’r Byd heddiw (dydd Mawrth, Mai 14), mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn annog pawb i gefnogi ffermwyr lle bo hynny’n bosib.

Dylai pobol ddefnyddio’r diwrnod i brynu cynnyrch lleol o fusnesau bach annibynnol, meddai James Evans, llefarydd Materion Gwledig y Ceidwadwyr Cymreig.

Dros y misoedd diwethaf, mae ffermwyr yng Nghymru wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru – fyddai’n ei gwneud hi’n ofynnol i ffermwyr blannu coed ar 10% o’u tir a neilltuo 10% arall ar gyfer byd natur.

Mae ffermwyr hefyd yn gwrthwynebu polisïau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â chlefyd y diciâu mewn gwartheg, a’r gofynion ar ffermydd i leihau llygredd mewn afonydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried yr ymateb ddaeth drwy ymgynghoriad i’r cynllun.

“Mae’r diwrnod hwn yn gyfle i gydnabod a dangos ein gwerthfawrogiad am bopeth mae ffermio a chymunedau gwledig yn eu gwneud i bobol Cymru a thu hwnt yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf heriol mae’r diwydiant wedi’i wynebu ers sawl blwyddyn,” meddai James Evans, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Frycheiniog a Maesyfed.

“Maen nhw’n darparu bwyd diogel o safon fyd-eang, sy’n cael ei gynhyrchu i’r safonau llesiant ac amgylcheddol uchaf yn y byd.

“Dw i’n annog pawb i gefnogi ein ffermwyr lle bo hynny’n bosib.

“Dylai pobol ddefnyddio’r diwrnod hwn i gefnogi’r diwydiant amaeth a phrynu cynnyrch lleol o’n busnesau bach annibynnol er mwyn helpu i roi arian yn ein heconomi leol sy’n cefnogi swyddi a bywoliaethau nifer o deuluoedd ledled Cymru.

“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig wastad yn sefyll gyda ffermwyr a busnesau gwledig.

“Nhw ydy asgwrn cefn economi Cymru a’n cymunedau gwledig, ac fe wnawn ni bopeth allwn ni i’w gwarchod am genedlaethau i ddod.”

Gwahardd allforio da byw

Mae disgwyl i waharddiad ar allforio da byw gael ei basio yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw hefyd.

Mae data Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dangos bod dros 40m o anifeiliaid fferm, gan gynnwys defaid, moch a lloeau, wedi cael eu hallforio o wledydd Prydain i gael eu magu neu eu lladd ers y 1960au.

Mae’r RSPCA wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn yr arfer ers dros 50 mlynedd, ac mae disgwyl i’r Arglwyddi gytuno ar gam olaf Deddf Llesiant Anifeiliaid (Allforio Da Byw) brynhawn heddiw, fydd yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon allforio anifeiliaid o wledydd Prydain i’w magu neu eu lladd.

“Mae’r bleidlais hon yn golygu mai heddiw yw un o’r diwrnodau mwyaf ar gyfer llesiant anifeiliaid mewn hanes modern,” meddai Emma Slawinski, Cyfarwyddwr Eiriolaeth RSPCA.

“Yn anffodus, dw i wedi gweld realiti’r allforion fy hun a’r effaith ar yr anifeiliaid.

“Fydd yr arogl sy’n dod oddi ar y cerbyd allforio, a galwadau’r anifeiliaid tu mewn wrth i’r llong adael y porthladd, yn aros efo fi am byth.

“Bob tro dw i’n siarad am allforio anifeiliaid, mae’r arogl a’r synau hynny’n dod yn ôl i fi.

“Diolch byth, ar ôl cymaint o flynyddoedd bydd yr ymgyrchu, blinder meddyliol, anafiadau, newyn, syched a straen sy’n wynebu’r anifeiliaid ar y teithiau milain hynny’n perthyn i’r llyfrau hanes yn y wlad yma.”