Mae cefnogaeth y Blaid Lafur o weithwyr dur Cymru yn “arwynebol”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Daw’r sylwadau wedi i Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, deithio i Mumbai yn India yr wythnos ddiwethaf i frwydro dros swyddi gweithwyr dur cwmni Tata ym Mhort Talbot a safleoedd eraill yng Nghymru.

Bu’n cyfarfod ag arweinwyr y cwmni i gyflwyno’r achos dros osgoi diswyddiadau.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Tata eu bod nhw am fwrw ymlaen â’r cynlluniau i gau dwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot, i’w disodli yn y blynyddoedd i ddod â ffwrnais arc trydan.

Mae disgwyl i gynlluniau Tata i gau’r ffwrneisi chwyth effeithio ar ryw 2,500 o weithwyr yn uniongyrchol, yn ogystal â thua 10,000 o bobol ar draws yr ardal, o fewn y gadwyn gyflenwi a busnesau dibynnol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am broses bontio decach, fwy graddol i gynhyrchu dur mwy gwyrdd, nad yw’n golygu diswyddiadau sydyn ac sy’n parhau i ddarparu’r dur Prydeinig o ansawdd sydd ei angen i gefnogi llawer o uchelgeisiau gwyrdd blaenllaw’r Deyrnas Unedig.

‘Arwynebol’

Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, dydy cefnogaeth y Blaid Lafur ddim yn ddigonol.

“Dydy cefnogaeth Llafur o’n gweithwyr dur ddim ond yn arwynebol,” meddai.

“Tra bo Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi rhoi dros hanner biliwn o bunnoedd ar y bwrdd i achub swyddi dur, yr oll mae’r Prif Weinidog wedi’i wario yw pris tocyn awyren i Mumbai.

“Tra bo Llafur yn gwneud dim byd, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i gefnogi cymuned Port Talbot.”

Trafodaethau ‘helaeth’

Dywed Vaughan Gething ei fod wedi rhoi “pwyslais mawr” ar yr angen i osgoi diswyddiadau gorfodol yn ystod “trafodaethau helaeth” yn ystod y daith.

“Tynnais sylw hefyd at bwysigrwydd cynnal gweithrediadau cysylltiedig Tata er mwyn sicrhau bod lefelau cynhyrchu’n cael eu cynnal yn llawn gyda dyfodol tymor hwy yn Nhrostre, Shotton, Llanwern a Chaerffili,” meddai.

“Cytunodd y Cwmni i ddarparu gwybodaeth am y rhai y mae unrhyw gynlluniau pontio yn effeithio arnynt er mwyn sicrhau y gellir cynnig cymorth i gyflogeion a chyflenwyr yn gyflym.

“Mae’r gadwyn gyflenwi o fewn Cymru yn un sylweddol, gan gyrraedd y tu hwnt i gymunedau dur yn uniongyrchol.

“Er mwyn i’r llywodraeth roi cymorth effeithiol a chyflym i fusnesau a gweithwyr y mae’r broses bontio yn effeithio arnynt ar hyd y gadwyn gyflenwi, rhaid inni gael yr wybodaeth ofynnol yn gynnar.

“Edrychaf ymlaen at roi gwybod y diweddaraf i’r Aelodau am y gwaith hwn wrth iddo fynd rhagddo.”

Y ffwrnais yn y nos

Prif Weinidog Cymru ym Mumbai i frwydro dros swyddi gweithwyr Tata ym Mhort Talbot

Bydd Vaughan Gething yn cyflwyno’r achos dros osgoi diswyddiadau yn safleoedd y cwmni yng Nghymru