Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd oedi pellach i gynllun cymorthdaliadau amaeth newydd.
Fydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sydd wedi derbyn cryn wrthwynebiad gan ffermwyr, ddim yn cael ei gyflwyno tan 2026.
Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Mawrth, Mai 14), dywedodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, y bydd ffermwyr yn dal i dderbyn y prif gymhorthdal presennol yn 2025.
Dros y misoedd diwethaf, mae ffermwyr yng Nghymru wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, fyddai’n ei gwneud hi’n ofynnol i ffermwyr blannu coed ar 10% o’u tir a neilltuo 10% arall ar gyfer byd natur.
Mae ffermwyr hefyd yn gwrthwynebu polisïau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â chlefyd y diciâu mewn gwartheg, a’r gofynion ar ffermydd i leihau llygredd mewn afonydd.
Roedd disgwyl i’r cynllun ddechrau yn Ebrill 2025, ond dywedodd Huw Irranca-Davies heddiw fod y llywodraeth wedi dweud o’r dechrau na fyddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno nes ei fod yn barod, a’u bod yn cadw at eu gair.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, mae’r “ymgysylltu ystyrlon” rhwng Llywodraeth Cymru a’r diwydiant amaeth yn golygu bod angen newid yr amserlen i wneud y diwygiadau.
‘Synhwyrol a phragmataidd’
Mae Plaid Cymru wedi croesawu’r cam “synhwyrol ac phragmataidd” i oedi’r cynlluniau, gan nodi eu bod nhw wedi bod yn dweud y dylid cymryd amser i gael y cynllun yn iawn yn hytrach na brysio ers misoedd.
“Dw i’n falch ein bod ni, drwy’r cytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru, wedi llwyddo i gael mwy o amser i gael y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn iawn,” meddai Llŷr Gruffydd, llefarydd materion gwledig y blaid.
“Rwyf wedi dadlau ers tro bod rhuthro i mewn i gynllun a fydd yn effeithio ar genedlaethau o ffermio yn anghyfrifol ac yn ffôl.
“Mae gennym gyfle yn awr i gymryd cam yn ôl a gwneud y newidiadau angenrheidiol a fydd yn sicrhau cefnogaeth y diwydiant a chynllun mwy cynaliadwy ar gyfer ffermio a’r byd natur.
“Rydym bob amser wedi dweud na fydd y ffigwr ‘un maint i bawb’ o 10% o orchudd coed yn gweithio i lawer o fathau o ffermydd a lleoliadau fferm.
“Cydnabyddir bellach bod angen hyblygrwydd ar hyn a bod yn rhaid ystyried ffyrdd eraill o ddal carbon.
“Rwy’n annog y Llywodraeth i sicrhau bod y Ford Gron a fydd yn ystyried dulliau gweithredu amgen yn cynnwys y rheini sydd â phrofiad ffermio.
“Nhw yw’r rhai sy’n gwybod orau beth fydd yn gweithio ar lawr gwlad.”
Dywed Llŷr Gruffydd hefyd ei fod yn falch fod Llywodraeth Cymru’n cydnabod gwerth cymdeithasol ffermio, a’i fod yn croesawu pwyslais cryfach yr Ysgrifennydd Cabinet ar ymgysylltu â ffermio ac ar bwysigrwydd cynhyrchu bwyd.
“Rwy’n falch ein bod heddiw wedi gweld Ysgrifennydd y Cabinet yn cymryd agwedd bragmatig a synhwyrol tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a bod llawer o alwadau Plaid Cymru nid yn unig wedi cael eu clywed ond wedi’u cyflawni,” meddai.