Mae Owen John Thomas, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd a chyd-sylfaenydd Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, wedi marw’n 84 oed.

Bu’n byw â dementia ers dros ddegawd.

Mae’n gadael gwraig, Siân, chwech o blant – John, Hywel, Eurwen, Iestyn, Rhodri a Rhys – ac unarddeg o wyrion.

Mewn neges ar ei dudalen X (Twitter gynt), dywedodd ei fab Rhys ab Owen, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, fod ei dad yn “eiriolwr dros addysg Gymraeg, Cymreictod Caerdydd, Senedd i Gymru a sylfaenydd Clwb Ifor Bach”.

Mewn datganiad ar ran y teulu, dywed ei fab Hywel fod ei dad yn “caru Cymru, ei phobol, ei hiaith a’i diwylliant gydag angerdd”.

“Cafodd ei ysgogi gan yr awydd i weld Cymru’n cael ei rhyddhau o gyfyngiadau San Steffan ac i bennu ei materion ei hun,” meddai.

“Byddai’r rhai mewn pŵer yn diystyru pobol fel fy nhad fel cynhyrfwyr trafferthus.

“Ond ar ddiwedd y dydd y cyfan a ddymunai erioed i’w wlad oedd tegwch a’r pwerau i godi pobol Cymru allan o dlodi a rhoi cyfle iddyn nhw am ddyfodol gwell.

“Araf oedd y cynnydd, llythyr ar ôl llythyr, modfedd wrth fodfedd ond daliodd ati ac ni roddodd y gorau iddi.”

Bywyd a gyrfa

Bu Owen John Thomas, oedd yn enedigol o Gaerdydd, yn cynrychioli Canol De Cymru yn y Cynulliad rhwng 1999 a 2007.

Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n Weinidog yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon.

Bu’n byw a gweithio yn y brifddinas drwy gydol ei fywyd, gan symud i gartref gofal yno yn 2019.

Roedd yn awdur llyfr am hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd.

Cafodd e ddiagnosis o ddementia yn 2013, gan golli’r gallu i siarad Cymraeg ar ôl dysgu’r iaith yn oedolyn.

Teyrngedau

“Ar ran Plaid Cymru, rwy’n estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu a chyfeillion Owen John Thomas,” meddai Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru.

“Rydym yn ei gofio fel ymgyrchydd brwd a lladmerydd di-flino dros y Gymraeg a Chymreictod yng Nghaerdydd.

“Gwnaeth gyfraniad sylweddol, nid yn unig i’w gymuned ond i Blaid Cymru hefyd.

“O ymgyrchu dros hawliau pensiynwyr Allied Steel and Wire ac Addysg Gymraeg yn y brifddinas i chwarae rhan yn llunio strategaeth Plaid Cymru wedi refferendwm 1979 – gwnaeth gyfraniad sylweddol i wleidyddiaeth Cymru, yn lleol ac yn genedlaethol.”

Un sydd wedi talu teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol yw Leighton Andrews, cydweithiwr iddo yn y Cynulliad rhwng 1993 a 2007.

“Fe wnes i fwynhau gwasanaethu yn y Cynulliad gyda’ch tad rhwng 1993 a 2007,” meddai.

“Roedd e bob amser yn galw ‘brawd’ arna i.

“Roedden ni ar y Pwyllgor Diwylliant gyda’n gilydd, ac fe wnaethon ni ymgyrchu gyda’n gilydd i sicrhau bod gan Gapel Tabernacl fynediad pan oedd Canolfan Dewi Sant 2 yn cael ei hadeiladu.”

Mae Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur yn San Steffan, wedi cydymdeimlo â’r teulu.

“Newyddion trist iawn gan y teulu Thomas am Owen John Thomas, sylfaenydd ein lleoliad cerddoriaeth byw yng Nghanol Caerdydd, Clwb Ifor Bach,” meddai.

“Yn anfon cydymdeimlad at ei deulu a’i ffrindiau niferus.”