Mae nifer yn galw am ymestyn y Ddeddf Iaith i gynnwys y sector preifat, wedi i’r ymgyrchydd iaith Toni Schiavone golli ei achos llys tros docyn parcio uniaith Saesneg.
Mae llys yn Aberystwyth wedi dyfarnu yn ei erbyn, ar ôl i’r cwmni One Parking Solution ddwyn achos er mwyn hawlio costau.
Ond mae’n dweud y bydd yn parhau i wrthod talu’r ddirwy hyd nes ei fod yn derbyn copi o’r rhybudd gan y cwmni yn Gymraeg.
Yn ôl y barnwr yn y llys, doedd dim sail cyfreithiol i orfodi’r cwmni i ddarparu gwasanaeth Cymraeg, ond mae Toni Schiavone yn mynnu bod hyn yn amlygu “diffyg difrifol” yn y ddeddfwriaeth sy’n amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg.
Cefndir
Derbyniodd Toni Schiavone y rhybudd gwreiddiol ym Medi 2020, a hynny am barcio mewn maes parcio preifat yn Llangrannog.
Ond gwrthododd e dalu, gan na dderbyniodd y rhybudd yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, er iddo fe anfon dau lythyr at y cwmni, yn ogystal â’u ffonio.
Cafodd y ddau achos cyntaf eu taflu allan o’r llys o ganlyniad i faterion technegol, ond mewn gwrandawiad ar Ionawr 26, enillodd One Parking Solution apêl i barhau i’w erlyn, wedi i’r barnwr ddyfarnu nad oedd sail i daflu’r ddau achos cyntaf o’r llys.
“Mae’r Gymraeg yn Iaith swyddogol a chyfartal yng Nghymru, ac mae gennym ni fel siaradwyr Cymraeg hawliau yn ôl y gyfraith, ac mewn egwyddor, dylid parchu hynny,” meddai Toni Schiavone.
“Mae’r cais am Daleb Cosb Parcio yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn rhesymol ac yn ymarferol.
“Byddai wedi costio tua £60 i’w gyfieithu.
“Gallai’r achos yma fod wedi cael ei ddatrys yn hawdd iawn ac yn gyflym iawn trwy ddarparu Taleb Cosb Parcio yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog.
“Ydy peidio gwneud hynny yn dangos rhagfarn yn erbyn y Gymraeg? Yn fy marn i, yndi.”
‘Diffyg difrifol’ yn neddfwriaeth yr iaith
Dywedodd y farnwraig Lowri Williams fod Toni Schiavone wedi ymddwyn yn “onest, egwyddorol”, ac wedi dangos “ymroddiad di-wyro i’r Gymraeg a’r achos dros yr iaith”.
Er hynny, dywedodd yn ystod ei dyfarniad nad oes unrhywbeth yn Neddf Iaith 1967, Deddf Iaith 1993, na Mesur yr Iaith Gymraeg 2011 i orfodi’r cwmni parcio i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.
Daeth gorchymyn, felly, fod yn rhaid talu’r rhybudd o £100, yn ogystal â £70 ar gyfer costau gweinyddol, £11.90 o log, ac £85 ar gyfer ffi’r llys, o fewn 21 diwrnod.
Wedi egluro’i dyfarniad a’i gorchymyn, dywedodd Toni Schiavone ei fod “yn deall” ond ei fod yn gwrthod talu.
Mae nifer wedi rhannu eu pryderon ar-lein nad yw’r Ddeddf Iaith yn ddigon pellgyrhaeddol, gan nad yw’n cynnwys y sector preifat.
Yn ôl Siân Howys, cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith, mae’r dyfarniad yn dangos nad oes gan y Gymraeg statws cyfartal yng Nghymru, “er gwaethaf honiad Llywodraeth Cymru”.
“Mae’r farnwraig wedi gwneud ei gwaith yn drylwyr a chanfod nad oes unrhyw beth yn y ddeddfwriaeth sy’n mynnu bod hawl Toni i ddefnyddio’i iaith ei hun yn ei wlad ei hun yn cael ei barchu,” meddai.
“Beth sy’n amlwg felly yw bod angen i Lywodraeth Cymru gywiro’r diffyg difrifol sy’n y ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau bod pobol Cymru yn gallu defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau.”
“Solidariaeth efo Toni,” ychwanegodd un ar wefan X (Twitter yn flaenorol).
“Roeddwn i yn y llys – ac mae’n glir bod angen Deddf Iaith newydd i atal hyn rhag digwydd.”
Cyflwyno safonau’r Gymraeg i fwy o sectorau
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rydym am weld pob sector yn cynyddu eu defnydd o’r iaith,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae cefnogi busnesau i ddatblygu eu gwasanaethau Cymraeg yn flaenoriaeth i ni, ac rydym yn canolbwyntio ar weithredu mewn ffordd sy’n cael effaith ystyrlon ac ymarferol ar hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
“Fel rhan o hyn, rydym yn dilyn rhaglen waith ar gyfer cyflwyno safonau’r Gymraeg i fwy o sectorau dros y blynyddoedd nesaf.
“Rydym yn falch fod Comisiynydd y Gymraeg wedi gweithio’n llwyddiannus gyda rhai cwmnïau parcio mawr i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.”