Mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, wedi teithio i Mumbai yn India i frwydro dros swyddi gweithwyr dur cwmni Tata ym Mhort Talbot a safleoedd eraill yng Nghymru.

Bydd yn cyfarfod ag arweinwyr y cwmni i gyflwyno’r achos dros osgoi diswyddiadau.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Tata eu bod nhw am fwrw ymlaen â’r cynlluniau i gau dwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot, i’w disodli yn y blynyddoedd i ddod â ffwrnais arc trydan.

Mae disgwyl i gynlluniau Tata i gau’r ffwrneisi chwyth effeithio ar ryw 2,500 o weithwyr yn uniongyrchol, yn ogystal â thua 10,000 o bobol ar draws yr ardal, o fewn y gadwyn gyflenwi a busnesau dibynnol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am broses bontio decach, fwy graddol i gynhyrchu dur mwy gwyrdd, nad yw’n golygu diswyddiadau sydyn ac sy’n parhau i ddarparu’r dur Prydeinig o ansawdd sydd ei angen i gefnogi llawer o uchelgeisiau gwyrdd blaenllaw’r Deyrnas Unedig.

‘Hanfodol i economi a diogelwch y Deyrnas Unedig’

“Mae dur o safon, sy’n cael ei wneud yng Nghymru, yn hanfodol i economi a diogelwch y Deyrnas Unedig,” meddai Vaughan Gething.

“Rydyn ni wedi dadlau’n gyson bod yna fargen well i’r diwydiant a gweithwyr Tata y gellid ac y dylid ei sicrhau – gan arwain at broses bontio hirach, decach tuag at gynhyrchu dur mwy gwyrdd.

“Fe allai ac fe ddylai fod gan ein sector dur ddyfodol cryf, a dim ond symud swyddi ac allyriadau Cymru i wlad arall y bydd atal cynhyrchu dur yn ei gyflawni nawr.

“O dyrbinau gwynt i geir glanach, rydyn ni’n gwybod y byddwn ni’n defnyddio mwy o ddur, yn enwedig dur gwyrdd, yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, ac mae hynny’n golygu cyfleoedd sylweddol i Bort Talbot os gall Tata ddelio’n iawn â’r broses bontio.

“Er y gall y ffenestr ar gyfer sicrhau’r broses bontio gyfiawn hon fod yn un gul, fel Prif Weinidog dw i’n addo ymladd bob cam i ddiogelu’r swyddi hyn.

“Fe fydda’ i’n dadlau’n gryf dros gadw swyddi Tata yng Nghymru, sy’n hanfodol nid dim ond i’r ardal, ond i ddyfodol gweithgynhyrchu yn y Deyrnas Unedig.”