Mae’r Senedd wedi clywed bod llawer gormod o blant a phobol ifanc yn methu cael gafael ar gefnogaeth o dan drefn anghenion dysgu ychwanegol newydd Cymru, gan adael teuluoedd ar ymyl y dibyn.

Arweiniodd Jack Sargeant, yr Aelod Llafur, ddadl ar ddeiseb â 15,000 o lofnodion gafodd ei chyflwyno gan Victoria Lightbown yn mynegi pryderon am gyflwyno’r system anghenion dysgu ychwanegol.

Dywedodd fod diwygio anghenion dysgu ychwanegol wedi arwain at fwy o ddeisebau dros y misoedd diwethaf nag unrhyw bwnc arall ac eithrio’r terfyn cyflymder 20m.y.a., gyda phump ohonyn nhw wedi cael eu hystyried gan y Pwyllgor Deisebau.

Cododd Jack Sargeant bryderon Estyn ynghylch dulliau anghyson o weithredu’r diwygiadau o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy’n disodli’r drefn anghenion addysgol arbennig flaenorol.

Dywedodd yr Aelod Llafur o’r Senedd, sy’n cadeirio’r Pwyllgor Deisebau, ei fod e wedi clywed straeon erchyll am rieni’n gorfod brwydro yn erbyn system sydd weithiau’n teimlo’n anhyblyg a heb gydymdeimlad.

‘Anghysondeb’

Dywedodd Buffy Williams, cadeirydd newydd Pwyllgor Addysg y Senedd, fod yna frwdfrydedd ynghylch egwyddorion craidd y diwygiadau, ond fod gormod o anghysondebau.

Rhybuddiodd fod categori newydd o ddisgyblion ar waith, a bod ganddyn nhw lefelau is o anghenion dysgu ychwanegol.

“Roedden nhw ar hen gofrestrau anghenion addysgol arbennig ysgolion,” meddai’r aelod o feinciau cefn Llafur.

“Ond am wahanol resymau – sy’n cynnwys cyllid, llwyth gwaith ac efallai’r hyblygrwydd sydd yn y cwricwlwm newydd – dydyn nhw ddim yn cael eu hadnabod fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.”

Dywedodd Buffy Williams, sy’n cynrychioli’r Rhondda, fod 32% yn llai o blant ar gofnod fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn ystod blwyddyn ysgol 2022-23 o gymharu â 2020-21.

Cododd hi bryderon llywydd y tribiwnlys addysg ynghylch “darpariaeth gyffredinol” yn cael ei ddefnyddio’n anghywir fel rheswm dros beidio rhoi cynllun datblygu unigol i blentyn.

‘Ymyl y dibyn’

Wrth ddweud bod angen amser ar y ddeddf i sefydlogi, ychwanegodd Buffy Williams fod angen mwy o amser penodedig i ffwrdd o ddysgu ar gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol er mwyn gwneud cyfiawnder â’u rolau.

Cododd Sam Rowlands bryderon ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod llawer gormod o blant yn cwympo trwy’r rhwyd wrth i’r system gael ei gweddnewid yn llwyr.

Dywedodd Sam Rowlands, cyn-arweinydd Cyngor Conwy sy’n cynrychioli Gogledd Cymru yn y Senedd, fod rhieni hefyd yn adrodd am broblemau o ran atebolrwydd.

Rhybuddiodd Heledd Fychan, llefarydd addysg Plaid Cymru, fod gormod o blant a phobol ifanc yn methu cael gafael ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.

Dywedodd wrth y Siambr iddi fod yn ei dagrau o glywed straeon teuluoedd ar ymyl y dibyn.

‘Despret’

Cyfeiriodd Heledd Fychan at un rhiant yn dweud wrthi eu bod nhw wedi ystyried lladd eu hunain o ganlyniad i’r straen o orfod brwydro’n barhaus am y gefnogaeth mae eu plentyn yn ei haeddu.

“Dyma lefel y pryder yn ein cymuned – mae dirfawr angen cefnogaeth,” meddai.

Cododd Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru bryderon am anghysondebau “anghredadwy” i ddysgwyr sydd angen cefnogaeth ychwanegol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhybuddiodd fod plant anabl a niwroamrywiol yn cael eu cau allan o nifer o’r pethau sy’n gwneud yr ysgol yn hwyl, o deithiau i gyngherddau Nadolig.

Tynnodd Peredur Owen Griffiths, ei chydweithiwr ym Mhlaid Cymru, sylw at ymdeimlad o rwystredigaeth a dicter ymhlith rhieni, sy’n deillio o’r anobaith ynghylch darpariaeth sy’n is na’r safon sy’n ddisgwyliedig.

Fe wnaeth e ddyfynnu llythyr gan Gyngor Blaenau Gwent at rieni, yn rhybuddio na all ysgolion “fforddio recriwtio’r nifer o staff angenrheidiol bellach i gefnogi ein dysgwyr mwyaf bregus”.

‘Darganfyddiad yn araf bach’

Tynnodd Hefin David ar brofiadau ei deulu ei hun, a chanddo ferch sy’n awtistig.

“Un o’r pethau sy’n digwydd pan fo gennych chi blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol yn eich teulu yw nad yw’n eiliad o ddatguddiad, ond yn hytrach yn ddarganfyddiad sy’n digwydd yn araf bach,” meddai.

Pwysleisiodd yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Gaerffili bwysigrwydd cefnogaeth addysgol a chlinigol, gan rybuddio bod diffyg cysylltiad rhwng y ddau yn aml iawn.

Fe wnaeth e gymharu’r system â pheiriant pinball sy’n symud rhieni o un lle i’r llall.

Dywedodd ei bod yn hawdd rhoi diagnosis i’w ferch a’i bod hi yn y lle iawn yn y system, ond mai’r “broblem sydd gennych chi yw lle bo gan y plant fwy o ansicrwydd o ran eu diagnosis”.

“Mae’n llawer mwy anodd iddyn nhw ddod o hyd i’w lle yn y system hefyd, a dw i’n gwybod fod eraill wedi cael y profiad hwnnw,” meddai.

“Dyna lle mae’n wir angen i ni ddechrau.”

‘Cefnogaeth ar sail anghenion’

Pwysleisiodd Vikki Howells, sydd hefyd yn aelod o feinciau cefn Llafur, nad yw’r symudiad tuag at y system anghenion dysgu ychwanegol yn gyflawn eto, gyda’i chyflwyno bob yn dipyn yn rhoi cyfle i ddysgu gwersi.

Dywedodd fod gwaith achos yn ei hetholaeth yng Nghwm Cynon yn dangos bod rhaid i anghenion dysgu ychwanegol fod yn flaenoriaeth.

Fe wnaeth Vikki Howells, sy’n gyn-athrawes a Phennaeth Chweched Cynorthwyol, dynnu sylw at gyhoeddiad o £20m yn rhagor ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Galwodd Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, am seilio cefnogaeth addysgol yn fwy ar angen yn hytrach na diagnosis.

Fe wnaeth y llefarydd iechyd dynnu sylw at enghreifftiau o blant chwech oed nad ydyn nhw’n cael diagnosis tan eu bod nhw’n 12 neu’n 13 oed, sy’n arwain at oedi cyn derbyn cefnogaeth yn yr ysgol.

‘Dyddiau cynnar’

Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg newydd Cymru, fod diwygio anghenion dysgu ychwanegol bob amser am fod yn rhaglen uchelgeisiol, systemig o newid, a’i fod yn dal yn ddyddiau cynnar eto.

Wrth addo gweithredu er mwyn gwella’r broses o’i chyflwyno, dywedodd wrth y Siambr fod dwy elfen i’w blaenoriaethau, sef gwella craffu a chynyddu cysondeb.

Wrth ymateb i’r ddadl ar Fai 8, dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi diogelu mwy na £50m eleni ar gyfer diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol.

Dywedodd fod yna enghreifftiau o arfer ardderchog yn ysgolion Cymru, gyda’r sector yn ymgorffori dull person-ganolog newydd ochr yn ochr â rhedeg y system anghenion addysgol arbennig.

Ond mi wnaeth hi gydnabod yr heriau, gan ddweud wrth Aelodau’r Senedd eu bod nhw’n “clywed yn rhy aml fod yn rhaid i deuluoedd plant ag anghenion dysgu ychwanegol frwydro am yr hawl i gael y gefnogaeth a’r addysg iawn”, a bod “rhaid i hyn newid”.