Mae rôl Gweinidog Annibyniaeth yr Alban wedi cael ei dileu.
Yn ôl John Swinney, Prif Weinidog newydd yr Alban, byddai’n well o lawer pe bai modd cryfhau’r economi er mwyn darbwyllo pobol ynghylch annibyniaeth.
Fe wnaeth e gyfleu’r neges honno pan gafodd ei gadarnhau’n Brif Weinidog ddechrau’r wythnos.
Jamie Hepburn oedd wedi bod yn y swydd gafodd ei chreu gan Humza Yousaf, rhagflaenydd John Swinney, flwyddyn yn ôl.
Prif dasg y gweinidog oedd cyhoeddi cyfres o adroddiadau ynghylch sut y byddai Llywodraeth yr Alban yn gweithredu pe bai’r wlad yn dod yn annibynnol.
Ond roedd y gwrthbleidiau’n feirniadol o’r gwaith, gan ddweud ei fod yn wastraff arian gan nad oes refferendwm ar y gorwel.
Mae 13 o adroddiadau wedi cael eu cyhoeddi hyd yn hyn.
Yn ôl y blaid, mae eu holl weinidogion yn canolbwyntio ar fater annibyniaeth.