Mae John Swinney, Prif Weinidog newydd yr Alban, wedi cyhoeddi ei Gabinet.

Kate Forbes, oedd wedi penderfynu peidio sefyll yn ei erbyn yn y ras am arweinyddiaeth yr SNP, fydd y Dirprwy Brif Weinidog newydd, ar ôl addo y byddai hi’n derbyn un o brif swyddi’r llywodraeth.

Roedd hi’n Ysgrifennydd Cyllid yn llywodraeth Nicola Sturgeon, ac mae hi’n olynu Shona Robison yn ei swydd newydd.

Mae Robison yn cadw ei chyfrifoldebau dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Hi yw’r Dirprwy Brif Weinidog ieuengaf erioed, a bydd hi hefyd yn gyfrifol am yr economi a Gaeleg yr Alban.

Jenny Gilruth yw’r Ysgrifennydd Addysg a Sgiliau o hyd, tra bod Angela Constance yn parhau’n Ysgrifennydd Cyfiawnder a Materion Cartref.

Mae Mairi McAllan hefyd yn cadw ei swydd yn Ysgrifennydd Sero Net ac Ynni, a Fiona Hyslop yn parhau i fod yn gyfrifol am Drafnidiaeth.

Neil Gray yw’r Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol o hyd, gyda Shirley-Anne Somerville yn cadw ei dyletswyddau ym maes Cyfiawnder Cymdeithasol.

Angus Robertson yw Ysgrifennydd y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant o hyd, tra bod Mairi Gougeon yn parhau i ofalu am Faterion Gwledig, Diwygio’r Tir a’r Ynysoedd.

Yn ôl y Prif Weinidog newydd, sydd wedi tyngu llw bellach, mae’r Cabinet yn gyfuniad o “brofiad ac egni”.

Dywed mai ei flaenoriaeth fydd dileu tlodi plant, a sicrhau economi sy’n gryf.