Wrth ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu datganoli yng Nghymru, mae’r Senedd wedi pleidleisio o blaid cynnig hanesyddol i ddiwygio’r sefydliad.
Yn sgil y ddeddfwriaeth, bydd nifer Aelodau’r Senedd yn cynyddu o 60 i 96, gyda chwe aelod yn cynrychioli pob un o’r 16 etholaeth.
Fydd dim aelodau rhanbarthol ar ôl etholiadau’r Senedd yn 2026.
Bydd tymhorau’r Senedd hefyd yn cael eu haddasu, gydag etholiad pob pedair blynedd yn lle pum mlynedd, sef y drefn ers sefydlu’r Senedd yn 1999.
Daw hyn ar ôl i 43 o Aelodau gefnogi’r cynnig gan Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, gyda dim ond 16 yn ei wrthwynebu.
Ar lawr y Senedd, dywedodd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, fod y bil yn gyfle “unwaith mewn cenhedlaeth” i fuddsoddi mewn democratiaeth ac “i greu Senedd fodern sydd yn cynrychioli a chyflwyno Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain, Senedd fydd yn fwy effeithlon â mwy o allu i gadw Llywodraeth Cymru i gyfrif, Senedd sydd yn cynrychioli pobol Cymru yn well”.
“Wrth i’n taith ddatganoledig gyrraedd y garreg filltir o 25 mlynedd, dwi’n credu bydd y pecyn diwygio yma yn creu Senedd sy’n addas ar gyfer y 25 mlynedd nesaf a thu hwnt,” meddai.
Er mwyn i’r ddeddf gael ei phasio, roedd angen i’r Blaid Lafur sicrhau cefnogaeth Plaid Cymru, a chymeradwyodd Heledd Fychan, un o aelodau’r Blaid, y bil fel cam ymlaen i ddatganoli.
“Drwy gymryd y camau rydym yn eu cymryd heddiw, bydd ein gallu i ddal gweinidogion i gyfrif yn cael ei gryfhau, a byddwn yn creu system ethol gyfangwbl gyfrannol,” meddai.
“Mae’r cam rydym yn ei gymryd heddiw yn gam enfawr ymlaen, nid yn unig i’r Senedd hon, ond i’n cenedl.”
Gwella craffu, ond rhai pryderon
Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, ei bod hithau’n “falch” o gefnogi’r ddeddfwriaeth hefyd.
“Dwi’n falch o gefnogi’r ddeddfwriaeth hon, rywbeth dwi’n ei weld fydd yn gwella ansawdd craffu ac yn sicrhau cynrychiolaeth iawn i bob un o gymunedau amrywiol Cymru,” meddai.
Er i’r ddeddfwriaeth gael ei phasio, roedd y Ceidwadwyr yn ei gwrthwynebu ar sail costau a chyflwyno rhestrau caeëedig, fyddai’n gofyn bod pleidiau’n cyflwyno rhestr sefydlog o ymgeiswyr yn y drefn maen nhw’n eu ffafrio.
“Beth sydd gennym ni heddiw yw darn o ddeddfwriaeth ddiffygiol iawn fydd, yn anffodus, yn tanseilio democratiaeth,” meddai Darren Millar ar ran y blaid.
“Mi fydd hefyd yn niweidio’r berthynas rhwng y cyhoedd a’u cynrychiolwyr etholedig yn y Senedd hon.
“Mae’r bil yma’n dal yn cynnwys system etholedig rhestr gaeëdig, system sydd yn dileu hawl angenrheidiol etholwyr yng Nghymru i ddewis y person maen nhw eisiau iddyn nhw gynrychioli eu hardaloedd nhw.
“Hwn yw’r achos mwyaf o dynnu’n ôl ar rymoedd yn hanes gwleidyddiaeth yng Nghymru.”
Cafodd y pryderon hyn eu hategu gan Jane Dodds.
“Mae cyflwyno rhestrau caeëdig yn creu perygl o dynnu’r penderfyniad a’r dewis ynghylch pwy maen nhw eisiau eu hethol o ddwylo etholwyr.
“Doedd ddim tystiolaeth i awgrymu ei fod o fudd i etholwyr mewn unrhyw ffordd.”
Newid y drefn
Bydd y ddeddfwriaeth yn golygu system etholiadol newydd, sy’n symud i ffwrdd o’r drefn ‘cyntaf i’r felin’ i system d’Hondt, sydd wedi bod yn ddadleuol, hyd yn oed gan bleidiau sydd yn cefnogi’r ddeddfwriaeth.
“Mi fydd Plaid Cymru yn parhau i gefnogi ac ymgyrchu am system bleidleisio STV [pleidlais sengl drosglwyddadwy],” meddai Heledd Fychan.
Mae disgwyl i’r dadleuon hyn tros y system etholiadol newydd a’r rhestrau caeëdig godi unwaith eto yn ystod adolygiad o’r system newydd yn dilyn etholiad 2026.
Yn dilyn y bleidlais, bydd y Bil yn dod yn gyfraith ffurfiol ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol ddechrau mis Gorffennaf.