Mae’r ffaith fod Natalie Elphicke wedi symud at y Blaid Lafur yn “crynhoi ymadawiad y Blaid Lafur o’i gwerthoedd craidd”, yn ôl Plaid Cymru

Daw’r rhybudd gan Blaid Cymru mewn neges yn gofyn i bobol ymuno â nhw os ydyn nhw’n “teimlo’n siomedig bod Tori arall yn ymuno” â’r Blaid.

“Peidiwch â gwylltio, ymunwch â Phlaid Cymru,” medd y neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cefndir

Daeth cadarnhad ddoe (dydd Mercher, Mai 8) fod Aelod Seneddol Deal & Dover wedi gadael y Ceidwadwyr, gan ddweud eu bod nhw’n llawn “anallu a rhaniadau”.

Eglurodd mai materion tai a diogelwch ffiniau oedd ei phrif resymau dros adael y blaid, gan gyhuddo Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, o “dorri addewidion”.

Hi yw’r ail Aelod Seneddol Ceidwadol ar ôl Dan Poulter i adael y blaid dros yr wythnosau diwethaf.

Bydd Natalie Elphicke yn camu o’r neilltu yn yr etholiad cyffredinol, a bydd yr etholaeth yn cadw eu hymgeisydd presennol.

Enillodd Natalie Elphicke sedd Dover yn yr etholiad cyffredinol diwethaf gyda mwyafrif o 12,278 ond mae’r ffiniau etholaethol ar fin newid.

Mae disgwyl iddi dderbyn y rôl ychwanegol o ymgynghori Llafur ar eu polisi tai hefyd.

Ond un sy’n amau a yw Llafur wedi gwneud y penderfyniad cywir i’w chroesawu hi yw’r Arglwydd Neil Kinnock.

Bu Natalie Elphicke yn cynrychioli’r etholaeth oedd wedi bod yn nwylo’i chyn-ŵr Charlie Elphicke, gafodd ei garcharu am ddwy flynedd yn 2020 am ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes.