Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Gyngor Ceredigion i drin ysgolion gwledig y sir ag agwedd “gadarnhaol”, yn lle eu trin nhw fel “problemau”.
Daw hyn yn sgil pryderon am ddyfodol rhai o ysgolion y sir.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, maen nhw wedi derbyn cais am gefnogaeth gan Lywodraethwyr Ysgol Llangwyryfon ac wedi cysylltu â Clive Williams, Dirprwy Brif Swyddog Addysg Cyngor Ceredigion, i bwysleisio nad yw dull presennol y Cyngor o drin nifer o ysgolion gwledig yn gyson â’u dyletswyddau statudol dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018).
‘Peri gofid ac ansicrwydd’
“Nid yn unig fod y dull presennol o drafod yn peri gofid ac ansicrwydd i nifer o ysgolion a chymunedau Cymraeg Ceredigion, ond mae hefyd yn groes i ddyletswyddau’r Cyngor Sir o dan y Cod statudol,” meddai Ffred Ffransis ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.
“Mae’r Cod yn mynnu fod rhagdyb o blaid ysgolion gwledig sydd ar restr swyddogol y Llywodraeth, fel ysgol Llangwyryfon ac eraill, ac na ddylid ystyried cau ysgol wledig oni bai fod pob opsiwn arall yn methu.
“Dylai’r Cyngor felly fod yn trafod yn gadarnhaol gyda llywodraethwyr sut i gryfhau’r ysgolion, nid eu trin fel problemau.
“Dylai’r Cyngor hefyd drafod yn strategol fesul ardal, nid ceisio “pigo i ffwrdd” ysgolion unigol gwasgarog pan welant gyfle.
“Ar ben hynny, mae ‘Papur Cynnig’ ar gyfer ymgynghoriad statudol ar unrhyw newidiadau i fod i gael ei gyhoeddi ar ddiwedd yr ymdrafod i geisio canfod ffyrdd ymlaen, nid tua dechrau’r broses.
“Rydyn ni’n deall fod swyddogion Awdurdodau Lleol dan lawer o bwysau, ac felly yn ein neges, rydyn ni wedi awgrymu ffordd gadarnhaol ymlaen o drafod gyda llywodraethwyr fesul ardal.
“Mawr obeithiwn fod pawb am weithio at yr un nod o gynnig addysg ragorol a fydd nid yn unig yn gosod seiliau sicr i’r disgyblion, ond hefyd yn cryfhau’r cymunedau y mae’r disgyblion yn byw ynddynt.”
Ymateb Cyngor Ceredigion
“Fel rhan o’n cynlluniau i sicrhau isadeiledd effeithlon a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol, rydym yn edrych i ddechrau’r broses o adolygu’r sefyllfa o ran ein ysgolion cynradd,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion.
“Y cam cyntaf fydd cyflwyno papur cynnig i Cabinet y Cyngor ym mis Gorffennaf eleni, sy’n adnabod rhai posibliadau i gwrdd â’r heriau sylweddol sy’n bodoli ar draws ein gwasanaethau.
“Ar hyn o bryd, ni fyddai’n briodol enwi ysgolion na chyfeirio at nifer yr ysgolion dan sylw, arbedion posib ac ati cyn i’r broses ddechrau yn swyddogol a’n bod yn rhoi gwybod i’r holl fudd-ddeiliad trwy’r broses gywir.
“Mae’r cyfnod yma yn heriol tu hwnt i’r Cyngor ac i ysgolion a’n gobaith yw cydweithio er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu mor effeithlon â phosib.
“Ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar y mater hwn a byddwn yn glynu’n agos at Gôd Trefniadaeth Ysgolion (Cymru) 2021.
“Mi fydd pob papur sy’n gysylltiedig â’r Côd yn cael eu cyhoeddi cyn cyfarfodydd Craffu a Chabinet yn y modd arferol.”