Dyma gyfres sy’n cael cip ar gartrefi rhai o wynebau adnabyddus Cymru. Yr awdur, actor a cholofnydd Golwg Rhian Cadwaladr, sy’n agor y drws i’w chartref yn Rhosgadfan ger Caernarfon yr wythnos hon…
Dw i’n byw yn Rhosgadfan ers bron i 37 mlynedd pan symudom ni yn ôl i’r gogledd o ardal Aberystwyth a finnau yn feichiog am y tro cyntaf. Y tŷ yma oedd yr ail dŷ i ni edrych arno ac roeddwn i’n gwybod yn syth mai hwn oedd fy nghartref. Un rheswm oedd ei bris – roedd tai yn llawer rhatach yma yn y bryniau bryd hynny, rheswm arall oedd bod ganddo bopeth oeddan ni isho – gegin o faint da, gardd a garej – ond yn bennaf roedd pob ’stafell yn olau, a’r olygfa yn hynod drawiadol a hithau’n ddiwrnod braf ym mis Mehefin. Pan symudom ni fewn ym mis Medi roedd y tywydd yn hollol wahanol a’r tŷ ar goll mewn niwl a braidd dim i weld drwy’r ffenestri a dw i’n cofio meddwl – “i le ydan ni wedi dod?”
Mae’r tŷ, o’r ffrynt, yn edrych fel llun y byddai plentyn yn ei ddarlunio – tair ffenest yn y llofft, dwy lawr grisiau a drws yn y canol, a phan symudom ni yma roedd iddo dair llofft ac un ystafell ymolchi ond wrth i nifer y teulu dyfu fe dyfodd y tŷ, a rŵan mae iddo pum ystafell wely a dwy ystafell ymolchi.
Yr ystafell bwysicaf yn y tŷ, i mi, ydi’r gegin, calon y cartref – dw i’n treulio oriau ynddi! Yn yr Hydref 2022 fe gafon ni gegin newydd – y pedwerydd ers i mi symud yma. Hon fydd yr olaf rŵan gan i mi gael cegin fy mreuddwydion o’r diwedd. Dw i’n hoffi’r range fawr, yr ynys yn y canol sy’n rhoi mwy o le i weithio, y silffoedd agored fel bod popeth wrth law, a’r cwpwrdd pantri. Mae’n gegin olau, ymarferol.
Yr un pryd ac y cafon ni wneud y gegin fe gafon ni le tân newydd yn yr ystafell fyw. Pan ddoish i yma gyntaf, hen stôf lo oedd yma ac un o’r newidiadau cyntaf wnaethon ni oedd ei thynnu allan a gosod gwres canolog olew. Am gyfnod doedd gennym ni ddim lle tân ond doedd hynny ddim yn teimlo’n iawn a phenderfynais fod yn rhaid i bob aelwyd gael aelwyd – felly dyma osod stôf newydd a hynny ar y diwrnod cyn Dolig. Roedd y plymar ar frys i fynd adra dw i’n credu achos chafodd hi mo’i gosod yn iawn a deallom yn ddiweddarach fod y twll yn rhy fach felly pan gafon ni stôf newydd yn 2022 gorfu agor gofod mwy – a dw i mor falch ein bod ni wedi gwneud hynny achos mae wedi ychwanegu mwy o gymeriad i’r ystafell.
Rydan ni’n bwyta pob pryd rownd y bwrdd ac yn aml yn dal i eistedd o’i amgylch yn sgwrsio yn hir ar ôl gorffen bwyta. Pan gafon ni’r gegin newydd fe gnocio ni’r wal rhwng y gegin a’r stafell fwyta i lawr, a rŵan dw i’n medru bod yn rhan o’r sgwrs hyd yn oed os ydw i dal yn gweithio yn y gegin.
Yn yr ystafell fwyta mae gen i set goffi tsieina gefais i gan fy Nain. Pan oedd hi’n ifanc roedd Nain yn gweithio fel morwyn yn nhŷ doctor yng Nghaernarfon a phan adawodd i briodi fe gafodd ddewis anrheg. Dewisodd Nain y set yma a roddwyd, yn ôl y sôn, yn anrheg priodas i’r doctor gan David Lloyd George. Wrth ei hochr mae set o lestri miniature fy mam. Wedi colli Mam roedd hi’n anodd cael gwared â’i phethau – yn enwedig y llestri Mason yr oedd hi wedi ei hel, ond doedd gen i ddim lle iddyn nhw ond fe roedd gen i le i’r rhain sydd wastad yn fy atgoffa ohoni.
Y bobl sydd yn y tŷ sydd yn gwneud aelwyd ac mae’r bobl yn ein tŷ ni yn ffysi ynglŷn â’u mygiau paned. Mae gan bawb ei fyg ei hun a fiw i neb arall yfed ohoni. Yr un ladis Cymreig ydi fy un i – er mae fy mhartner yn ei galw’n fyg gwrachod! Peth arall sydd yn gwneud tŷ yn gartref ydi llanast! Dw i ddim yn byw mewn chaos ond dw i ddim chwaith y person taclusaf ac yn aml mae fy nesg yn flêr, yn enwedig pan dw i’n brysur. Dw i’n brysur ar y funud!
Mae fy amgylchiadau i wedi newid dros y blynyddoedd ac ambell i adeg wedi codi pan dw i wedi ystyried symud ond mae un peth mawr yn fy nghadw i yma – yr olygfa. Mae’r awyr yn ddiddiwedd a’r sioeau o fachlud yn wahanol bob tro ac yn dal i’m rhyfeddu.
Fe fydd Gwaddol (Gwasg Carreg Gwalch), nofel newydd Rhian Cadwaladr, yn cael ei chyhoeddi ym mis Mehefin a bydd ei nofel fer i ddysgwyr Hanna (Gwasg y Bwthyn) yn cael ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf.