Bydd Gŵyl Fach y Fro yn dychwelyd i Ynys y Barri heddiw (dydd Sadwrn, 18 Mai) gyda gwledd o gerddoriaeth, stondinau, gweithdai a chwaraeon.
Yn ogystal â pherfformiadau gan Sage Todz, Parisa Fouladi, Gwcci, Lowri Evans, Mattoidz, Fleur de Lys, Brigyn, Lo-Fi Jones, Kitsch n Sync a The Sparklettes, mae nifer o brosiectau cymunedol wedi cael eu trefnu fel rhan o’r ŵyl.
Dros y misoedd diwethaf, mae Menter Iaith Bro Morgannwg wedi trefnu amrywiaeth o brosiectau gyda chymunedau ac ysgolion ar draws Bro Morgannwg er mwyn galluogi plant, pobol ifanc a’r gymuned ehangach i fod yn rhan o’r ŵyl mewn amrywiol ffyrdd.
Un o’r prosiectau hynny oedd cystadleuaeth ffotograffiaeth Lens y Fro, gafodd ei lansio yn yr haf y llynedd. Bu’n rhaid i’r cystadleuwyr gyflwyno llun o’r Fro ym misoedd yr haf. Bethan Cain ddaeth i’r brig gyda’i llun ‘Mam a Mab’. Bydd Bethan yn cael sesiwn un wrth un gyda’r ffotograffydd o Benarth, Dewi Tannatt Lloyd a bydd gwaith nifer o’r ymgeiswyr eraill yn cael ei arddangos yn ystod yr ŵyl. Cafodd y prosiect ei drefnu er cof am Alcwyn Deiniol Evans, un o drigolion y Barri a ffotograffydd adnabyddus.
Mae’r prosiectau wedi cael cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cyngor Bro Morgannwg a Chyngor Tref y Barri.
Bydd Gŵyl Fach y Fro yn cael ei chynnal heddiw (dydd Sadwrn, Mai 18) rhwng 11yb – 8yh.