Mae ffigurau o Gyfrifiad 2021 sy’n croesgyfeirio gwybodaeth am ddaliadaeth cartrefi â’r gallu i siarad Cymraeg yn codi cwestiynau am denantiaethau tai cymdeithasol yng nghefn gwlad…


Mae cais i godi stad o dai cymdeithasol mewn pentref yn un o gadarnleoedd pwysicaf y Gymraeg yn achosi cryn bryder yn lleol.

Yn ôl adroddiad ar dudalen flaen y papur bro Llanw Llŷn, mae Cyngor Cymuned Botwnnog yn gwrthwynebu’r datblygiad oherwydd nad oes angen lleol amdano. Maen nhw’n dadlau bod arolwg diweddar wedi dangos nad oes ond pedwar enw ar restr aros a bod y bwriad i godi deunaw o dai yn ddatblygiad llawer rhy fawr.

Mae’r cyngor cymuned yn feirniadol o bolisi Cyngor Gwynedd ar osod tai cymdeithasol mewn partneriaeth â’r landord cymdeithasol lleol Adra, gan ddadlau nad yw’r polisi hwnnw “yn ystyried y Gymraeg o gwbl” a’i fod yn rhoi blaenoriaeth i “ymgeiswyr mewn angen tai brys” ar draul ymgeiswyr lleol.

Yn ôl y cyngor cymuned: “Yn codi o hynny mae pryderon ynghylch effaith datblygiad fel hwn ar gymuned Gymraeg pentref Botwnnog gan na fydd blaenoriaeth yn cael ei roi i siaradwyr Cymraeg ar gyfer y tai fel mae pethau’n sefyll yn bresennol.”

Mae’r achos hwn yn dilyn llawer o bryderon o dan yr wyneb mewn sawl ardal yng Nghymru am hanesion am deuluoedd o ddinasoedd Lloegr yn cael eu symud i dai cymdeithasol yn ein hardaloedd gwledig.

Er hyn, anodd iawn ydi cael unrhyw dystiolaeth gadarn o’r graddau mae hyn yn digwydd mewn gwahanol ardaloedd. Dydi hi ddim yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol nodi gallu eu tenantiaid i siarad Cymraeg – er y gallwn fod yn sicr eu bod yn casglu mynydd o ddata monitro ynghylch unrhyw nodweddion eraill sy’n ymwneud â’r hyn a elwir yn ‘amrywiaeth’. Mae rhywun yn cael yr argraff yn aml fod yr awdurdodau’n barod iawn i daflu llwch i’n llygaid sut mae’n tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu.

Fodd bynnag, mae gwybodaeth ar gael o Gyfrifiad 2021 sy’n dangos y gallu i siarad Cymraeg ymhlith tenantiaid tai cymdeithasol mewn unrhyw ardal benodol. Gall hyn daflu rhywfaint o oleuni inni ar y graddau mae iaith y tenantiaid hyn yn adlewyrchu iaith y gymdeithas.

Cwestiynau’r Cyfrifiad

Mae’r Cyfrifiad yn gofyn ym mha fath o gartref mae pobl yn byw, gan roi pedwar dewis: perchnogaeth lwyr (heb forgais), perchnogaeth â morgais, tenantiaeth gymdeithasol a thenantiaeth breifat.

Mae hefyd yn croesgyfeirio’r wybodaeth hon â gallu’r person a ddisgrifir fel ‘person cyfeirio’r cartref’ i siarad Cymraeg. Mae’r ystadegau felly’n wneud ag iaith y person hwn yn hytrach na holl drigolion y cartref a holl boblogaeth yr ardal. Er y gallai hynny ymddangos yn anfoddhaol ar yr olwg gyntaf, daw’n amlwg o graffu ymhellach fod iaith yr unigolion hyn yn adlewyrchu’n fras y canrannau cyffredinol ymysg oedolion yr ardal honno.

Yn gyffredinol, ledled Cymru, mae’r ffigurau’n dangos canrannau uwch yn y gallu i siarad Cymraeg ymysg perchnogion tai o gymharu â thenantiaid (15 y cant o gymharu â 11 y cant).

Ar lefel genedlaethol, mae’n debyg nad oes gymaint â hynny o arwyddocâd i’r wybodaeth hon. Wrth edrych ar y siroedd gorllewinol fodd bynnag, daw canfyddiadau mwy dadlennol i’r amlwg.

Yng Ngwynedd a Môn, cymharol fach yw’r gwahaniaethau yn y gallu i siarad Cymraeg rhwng perchnogion tai a thenantiaid. Yng Ngwynedd, roedd 65 y cant o denantiaid tai cymdeithasol yn gallu siarad Cymraeg, o gymharu â 68 y cant o berchnogion tai â morgais, a 58 y cant o

berchnogion llwyr. Y sefyllfa ym Môn oedd bod 55 o denantiaid tai cymdeithasol yn gallu siarad Cymraeg o gymharu â 56 y cant o berchnogion tai â morgais a 48 y cant o berchnogion llwyr.

Pan drown at Geredigion a Sir Gâr, fodd bynnag, mae’r gwahaniaethau’n llawer mwy. Mae’r ffigurau’n awgrymu mai dim ond ychydig dros draean – 35 y cant – o denantiaid tai cymdeithasol Ceredigion sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae’n waeth fyth yn Sir Gâr lle nad yw’r gyfran ond ychydig dros chwarter – 28 y cant. Mae’r canrannau hyn yn sylweddol is na’r hyn ydyn nhw ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol yn y ddwy sir (45 y cant yng Ngheredigion a 40 y cant yn Sir Gâr).

O ystyried bod y Gymraeg wedi dal ei thir yn well yng Ngwynedd a Môn nag yn y ddwy sir dde-orllewinol dros y degawdau diwethaf, mae’r gwahaniaeth hwn yn drawiadol. Yn sicr, mae’n codi cwestiynau ynghylch arwyddocâd posibl tenantiaethau tai cymdeithasol fel ffactor yn hyn.

Adlewyrchu’r gymdeithas gynhenid

Fel mae’n digwydd, mae’r canrannau o denantiaid tai cymdeithasol sy’n gallu siarad Cymraeg yng Ngwynedd a Môn yn adlewyrchu’n agos iawn y canrannau ymysg y boblogaeth gyffredinol. Eto i gyd, nid yw hyn chwaith yn ddigon da. Rhaid cofio bod llawer iawn o bobl leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai mewn ardaloedd gwledig a bod tai cymdeithasol yn ffordd o ddarparu ar gyfer y bobl hyn. Yn llawer o’n hardaloedd Cymreiciaf, un o’r prif resymau dros y gostyngiad yn y canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yw mewnfudiad pobl gyfoethocach o ddinasoedd Lloegr. Byddai’r canrannau ymysg y boblogaeth gynhenid yn llawer iawn uwch.

O’r herwydd, byddai’n rhesymol disgwyl i’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg ymhlith tenantaid tai cymdeithasol mewn unrhyw ardal benodol fod yn adlewyrchiad bras o iaith y gymdeithas gynhenid. Un ffordd o fesur y graddau mae hyn yn digwydd yw trwy gymharu’r ffigurau sydd yn y Cyfrifiad am y gallu i siarad Cymraeg ymysg y trigolion rheini a aned yng Nghymru. Yn ôl Cyfrifiad 2021, y canrannau o’r boblogaeth a aned yng Nghymru sy’n gallu siarad Cymraeg oedd 87 y cant yng Ngwynedd, 76 y cant ym Môn, 72 y cant yng Ngheredigion, a 50 y cant yn Sir Gâr.

Mae un o’r enghreifftiau gwaethaf o’r diffyg cymesuredd hwn rhwng iaith tenantaid tai cymdeithasol a’r gymdeithas gynhenid i’w weld yn un o ardaloedd Cymreiciaf Ceredigion, sef ward Tregaron ac Ystrad Fflur. Yma mae 84 y cant o’r trigolion a aned yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, ond dim ond 39 y cant o denantiaid tai cymdeithasol y ward sy’n gallu’r iaith. Mae’r un peth yn wir am ward Llanwenog yn nyffryn Teifi, lle mae 83 y cant o’r trigolion a aned yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, ond eto dim ond 39 y cant o denantiaid y tai cymdeithasol. Mae’n anodd osgoi’r casgliad fod landlordiaid cymdeithasol a’u polisïau gosod yn cyfrannu’n sylweddol at y disodli diwylliannol sy’n digwydd mewn ardaloedd fel hyn.

Gwynedd a Llŷn

I fynd yn ôl at y pryderon yn Llŷn a grybwyllir uchod, beth am y sefyllfa yng Ngwynedd felly?

Er bod y canrannau cyffredinol o denantiaid tai cymdeithasol sy’n gallu siarad Cymraeg yn uwch yng Ngwynedd, mae anghymesuredd amlwg mewn sawl ardal rhyngddynt ac iaith y gymdeithas gynhenid. Hefyd, gyda chanrannau mor uchel o’r bobl a aned yng Nghymru’n

gallu siarad Cymraeg – mae dros 90 y cant yn holl ardaloedd Llŷn – mae’n ffon fesur ddibynadwy o’r graddau mae pobl leol yn cael eu cyfran deg o dai.

O droi at ward Pen Draw Llŷn, lle mae pentref Botwnnog, nid yw’r ganran o 77 y cant o drigolion tai cymdeithasol sy’n gallu siarad Cymraeg yn ymddangos yn rhy ddrwg ar yr olwg gyntaf. Eto gyd, mae’n cymharu â chanran o bron i 96 y cant o’r bobl hynny yn y ward a aned yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg.

Yn y ward sy’n ffinio â hi, sef Morfa Nefyn a Tudweiliog, sydd eto â bron i 96 y cant o’r bobl a aned yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, nid yw’r sefyllfa gystal. Llai na dau draean – 65 y cant – o drigolion tai cymdeithasol y ward sy’n gallu siarad Cymraeg, yn ôl y Cyfrifiad. Yn ward Yr Eifl, ychydig i’r gogledd, mae’r sefyllfa’n waeth fyth, lle nad oes ond 57 y cant o denantiaid tai cymdeithasol yn gallu siarad Cymraeg. Yn ward Llanbedrog a Mynytho mae cyn ised â 42 y cant.

Dylai fod yn amlwg fod sefyllfa o’r fath yn gwbl annerbyniol. Mae Llŷn yn un o’r ardaloedd sy’n cael eu taro waethaf gan diffyg fforddiadwyedd tai i bobl leol, a gallai tai cymdeithasol gyfrannu at unioni rhywfaint ar y sefyllfa. Ac yn wyneb yr angen am fesurau penodol i amddiffyn cadarnleoedd pwysicaf y Gymraeg, mae’n gwbl resymol mynnu bod y gallu i siarad Cymraeg yn ffactor wrth ddyrannu tai o’r fath.

Mae’n wir mai cipolwg bras o’r sefyllfa a gawn yn ffigurau’r Cyfrifiad. Eto i gyd, o’u hystyried yn ofalus, gwelwn fod digon o dystiolaeth ynddyn nhw i ddangos bod sail i bryderon Cyngor Cymuned Botwnnog nad yw codi mwy o dai cymdeithasol o angenrheidrwydd o fudd i’n hiaith a’n diwylliant.

Os ydan ni o ddifrif am ddiogelu cynefinoedd pwysicaf a gwerthfawrocaf y Gymraeg, rhaid mynnu bod tenantiaethau tai cymdeithasol yn fater sy’n cael ei drafod yn onest a diflewyn ar dafod. Esgeulustod llwyr fyddai cuddio’n pennau yn y tywod a thwyllo’n hunain mai ail gartrefi yw unig broblem tai y Gymru wledig Gymraeg a’r unig fygythiad i’w hunaniaeth.