Gras ein Harglwydd Iesu Grist a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glan a fyddo gyda ni oll.
(2 Corinthiaid 13:13)
Mae’r geiriau yn rhan annatod o addoliad Cristnogion o Sul i Sul. Geiriau cyfarwydd iawn, ond ymhlyg ynddyn nhw mae dirgelwch arswydus o fawr: Tad, Mab ac Ysbryd Glân. Daeth un o’r tri yn un ohonom, ac o’r herwydd mae gobaith gennym i ddechrau deall Iesu. Mae’r profiad cyffredinol o ofal a chariad tad yn agor cil y drws i’r syniad o Dduw fel Tad cariadlawn. Ond rhaid wrth ddychymyg eang a dwfn i gyffwrdd hyd yn oed ag ymyl y syniad o’r Ysbryd Glân. Yr Ysbryd Glan? Beth yw hwnnw?
Mae Mathew, Marc a Luc yn gytûn bod yr Ysbryd hwn wedi disgyn ar Iesu adeg ei fedydd fel colomen. Yr Ysbryd Glân? Beth yw hwnnw? Colomen? Na, meddai Mathew, Marc a Luc fod yr Ysbryd Glân fel colomen. Yn ddiweddarach, yn Llyfr yr Actau, cawn sôn gan Luc fod yr Ysbryd wedi dod fel sŵn gwynt stormus a thafodau o dân a llenwi’r oruwch-ystafell yn Jerwsalem. Yr Ysbryd Glân? Beth yw hwnnw? Gwynt nerthol? Fflamau tân? Na, rhywbeth fel gwynt nerthol, rhywbeth tebyg i fflamau tân.
Wrth ddarllen ymlaen yn Llyfr yr Actau, fe ddown i weld a deall bod dilynwyr Iesu’n dibynnu ar yr Ysbryd i’w harwain – beth i ddweud a gwneud, pryd i aros neu symud ymlaen. Nid teyrn mo’r Ysbryd hwn, nid oedd gorfodaeth arnyn nhw i ildio iddo, ond o ddewis gwneud, roedd pethau syfrdanol yn digwydd. Grym Duw ar waith oedd yr Ysbryd, ac wrth ildio iddo roedden nhw fel dail yr Hydref yng ngafael y gwynt, fel darnau pren yn llif yr afon. Nid oedd modd rheoli’r grym hwn, ond roedd yn rhaid ildio iddo, ac o ildio daeth anturiaeth ddi-ben-draw!
Canrifoedd lawer yn ddiweddarach, mae’r egni byw hwn mor rhyfedd a rhyfeddol ag a bu erioed – mor annealladwy i ni nawr, ag ydoedd i awdur Genesis wrth iddo sôn am ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd (1:2a). Yr Ysbryd hwn, sydd yn cydio pobol Duw ynghyd ar draws pob ffin, rhwystr a magl. Yr Ysbryd hwn sydd yn cydio ynghyd pobol Duw ddoe, heddiw ac yn oes oesoedd. A ninnau’n ddim byd ond esgyrn sychion, yr Ysbryd hwn sydd yn ein bywiocau. Yr ysbryd hwn sydd yn chwythu ffiws ein ffydd. Yr Ysbryd hwn sydd fel firws yng nghyfrifiadur ein crefydd. Yr Ysbryd hwn sydd yn creu patrymau troellog llac o linellau syth ein credoau tynn. Ond, erys y broblem o fedru siarad am yr Ysbryd. Erys y cwestiwn: Yr Ysbryd Glân? Beth yw hwnnw? Sut mae sôn yn glir am rywbeth mor aneglur? Sut mae sôn yn bendant am rywbeth mor amhendant? Rydym ninnau yn union fel Mathew, Marc a Luc yn gorfod pwyso ar y gair bach hwnnw: fel. I ni, fel hwythau mae’r Ysbryd fel rhywbeth neu’i gilydd.
Mi gredaf fod gan wyddoniaeth gyfoes ambell fel newydd sydd yn gymorth mawr yn ein meddwl – a’n siarad – am yr Ysbryd Glân. Ar ôl pedwar cant o flynyddoedd o gecru cyson rhwng gwyddonwyr a diwinyddion, daeth gwawr glân o gymod newydd. Bellach, mae llyfrau yn cael eu cyhoeddi sydd yn anodd iawn i’w gosod yn dwt yn ei lle. Ydi The Faith of a Physicist gan John Polkinghorne yn perthyn i’r adran Wyddoniaeth neu i’r adran Grefydd? Beth wedyn am The Physics of Immortality gan Frank Tipler, neu The Quantum Self gan Danah Zohar? Mae’r hen ffiniau yn dechrau diflannu, ac o hynny daw iechyd i bawb.
Mi hoffwn gydio mewn dau fel o fyd ffiseg. Daw’r fel cyntaf o Ddamcaniaeth Anhrefn – Chaos Theory. Hanfod y ddamcaniaeth hon yw’r syniad nad peiriant mor bydysawd, ond rywbeth byw, hyblyg. Y pennaf o arloeswyr Damcaniaeth Anhrefn oedd Edward Norton Lorenz (1917-2008). Lorenz darganfyddodd yn ôl yn 1961 pam nad oedd modd darogan y tywydd yn fanwl gywir. Wedi bwydo manylion patrymau tywydd i’w gyfrifiadur, ar ddamwain daeth i sylweddoli bod y newidiadau lleiaf yn y manylion hynny yn gallu arwain at ganlyniadau syfrdanol mawr. Mae’r ddelwedd bellach yn enwog: bod curiad adenydd pili-pala yn Beijing heddiw yn creu storm yn Efrog Newydd fis nesaf. Wrth wraidd Damcaniaeth Anrhefn mae’r syniad o gyd-ddibyniaeth. Mae popeth a phawb yn gydiol wrth ei gilydd, yn ddibynnol ar ei gilydd. Yn union oherwydd bod popeth yn gydiol wrth bopeth nid oes modd darogan yn fanwl gywir sut y bydd un peth yn benodol yn ymddwyn o fewn y we hon o gyd-ddibyniaeth. Ydi, mae’r Ysbryd Glân fel Damcaniaeth Anhrefn. Nid ydym yn byw fel peiriannau mewn peiriant o fyd mewn bydysawd peirianyddol. Perthyn ydym i rwydwaith dirgel, dyrys ac mae pawb ohonom yn gydiol wrth ein gilydd yn, a thrwy’r Ysbryd. Felly, gellir esbonio ffenomenon yr eglwys leol. Sylwch ar yr amrywiaeth o brofiad, cefndir, gobaith, dyhead, ffydd a thraddodiad a berthyn i bob cymuned ffydd leol. Dim ond o fewn yr eglwys, yn nhynfa dyner dynn yr Ysbryd mae’r fath amrywiaeth creadigol yn bosibl – nid oes dim byd arall a allasai ddod â’r fath amrywiaeth ynghyd i gydweithio! Meddyliwch, yn ogystal am amrywiaeth anhygoel yr eglwys Gristnogol ar draws y byd. Mae’r amrywiaeth y tu hwnt i fynegiant, ond yn real a byw oherwydd rheffynnau’r Ysbryd yn dynn rhyngom a thrwom.
Yr ail beth yw’r hyn a elwir yn EPR paradox. EPR oherwydd mai Albert Einstein (1879-1955), Boris Podolsky (1896-1966) a Nathan Rosen (1909-1995) – EPR – gynigodd yn syniad yn 1935. Paradocs, gan mai paradocs ydyw. Dw i’n hoffi’r syniad hwn, neu o leiaf dw i’n hoffi fy neall innau ohono. Dychmygwch, meddai Einstein, Podolsky a Rosen dau ronyn bychan bach – dau particle A a B. Daeth A a B i fodolaeth gyda’i gilydd, ond aethon nhw oes pys yn ôl oddi wrth ei gilydd, mor bell fel na allai fod unrhyw cyfathrebu rhyngddyn nhw. Ond yn ôl ein mathemateg ni, meddai Einstein, Podolsky a Rosen, dyma sydd yn anhygoel, er y pellter sydd rhyngddyn nhw pan fo A yn newid cyfeiriad, yn syth bin, gwna B yr un fath yn union fel pe bai’r ddau ronyn bychan bach yn ‘gwybod’ beth oedd y naill a’r llall yn ei wneud. Fe ddigwydd hyn yn union syth, yn gynt hyd yn oed na chyflymdra golau. Nid ddylai hyn ddigwydd, ni ddylai hyn fod yn bosibl ond er gwaethaf hynny, dengys hafaliadau Einstein, Podolsky a Rosen fod hyn yn digwydd. Mae’r Ysbryd Glân fel y Paradocs EPR. Yr Ysbryd sydd yn pontio meithder ffordd ac amser, ys dywed yr emyn. Pellter amser – troi’n ôl i’r gorffennol a wnawn yn reddfol, a cheisio cael Duw i ail-wneud, ail-greu, ailwampio. Nid Duw ddoe mohono, nid yw’r Ysbryd Glân yn ein harwain yn ôl. Y mae pellter ffordd yn fwy hyd yn oed na phellter amser. Sut gall rhyw boblach fel nyni obeithio dod yn agos at Dduw? Mae Duw allan o’n cyrraedd. Onid, yr unig beth y gallwn ni ei wneud yw ei edmygu’n syn? Cofiwch A a B mewn perffaith gynghanedd er gwaethaf pob pellter; wel, mae’r Ysbryd ar waith yn symud pob pellter a difodi meithder ffordd ac amser yn sicrhau mae Duw agos, agos yw ein Duw ninnau, nid Duw ar goll yn niwl y bannau uchel, nac yn niwl y gorffennol pell.
Mae’r Ysbryd fel tafod tân, fel nerthol wynt, fel gwlith, fel gwin, fel Damcaniaeth Anhrefn, fel Paradocs EPR. Pen draw hyn oll yw gorfod cydnabod mai ofer ceisio diffinio’r Ysbryd Glân i drwch y blewyn! Dim ond y fel sydd gennym, a chofiwn, ac atgoffwn ein gilydd yn gyson mae unig amod bendith hael yr Ysbryd yw chwilio am fel sydd inni’n gweithio, heb wadu gwerth unrhyw a phob fel arall.