Gall faban sy’n methu syrthio i gysgu fod yn hunllef, ond mae un fam o’r gogledd yn dysgu technegau tylino sy’n “grêt ar gyfer hybu cwsg”…

Mae mam sy’n cynnal dosbarthiadau ioga a thylino babis yn awyddus i greu lle diogel i famau rannu profiadau a dod i adnabod ei gilydd.

Leri Foxhall sy’n rhedeg Iogis Bach, menter sy’n cynnig sesiynau ioga i fabis, menywod beichiog a mamau newydd. Mae gwersi tylino babis hefyd ar y fwydlen.