Fe fagwyd y canwr-gyfansoddwr 27 oed o Gaerdydd mewn teulu yn siarad yr iaith Urdu ac mae cerddoriaeth de Asiaidd wedi cael dylanwad mawr arni.

‘Artshawty’ yw enw ei phrosiect cerddorol gyda’i gŵr, Dylan, ac maen nhw’n creu cerddoriaeth indi pop sydd wedi bod ar raglen Curadur S4C.

Mae hi hefyd yn un hanner o’r prosiect pop sinematig, Siula, gyda Llion Robertson, sydd â’u cân lysh ‘Golau Gwir’ yn aml i’w chlywed ar y radio.