Mae chwech o brentisiaid a myfyrwyr ifanc o Gymru sy’n astudio meysydd megis Plymio a Gwresogi, Seiber-ddiogelwch a Cynnal a Chadw Awyrennau, wedi eu dewis i gynrychioli gwledydd Prydain yn WorldSkills 2024 yn Lyon, Ffrainc.
Bydd y gystadleuaeth hon yn cychwyn oriau yn unig wedi i’r Gemau Olympaidd ddod i ben ym Mharis ar 11 Awst, ac mae yn cael ei hadnabod fel Gemau Olympaidd ar gyfer sgiliau’r gweithle.