Yn y gorffennol mae Llywodraeth Geidwadol Prydain wedi cael modd i fyw yn lladd ar y modd mae Llywodraeth Cymru yn rhedeg y Gwasanaeth Iechyd, a rhai yn ei chyhuddo o fychanu Senedd Cymru. Ac yn nyddiau Boris yn Brif Weinidog, roedd Mark Drakeford yn dweud nad oedd fawr o Gymraeg rhwng y ddau.

A hawdd yw syrthio i’r trap o feddwl mai peth prin yw’r Tori Prydeinig sydd o blaid datganoli… ond mae Bwrlwm wedi dod o hyd i un!