Saer coed o Bowys sydd wedi creu Cadair Eisteddfod yr Urdd eleni – sydd yn cael ei noddi gan NFU Cymru Maldwyn.

“Mae creu cadair Eisteddfod yr Urdd yn gyfle unwaith mewn bywyd, ac mae ei chreu ar gyfer ardal sy’n golygu gymaint i fi a’r teulu, yn fraint,” meddai Siôn Jones, sydd â gweithdy ar fferm y teulu yng Nghaersws, nid nepell o’i gartref yn Llanidloes.

Ei fro enedigol sydd wedi ysbrydoli’r cynllun – mae ar y gadair nodweddion yn cyfeirio at afon Hafren, Llyn Efyrnwy, cerddoriaeth y delyn, y byd amaethyddol a chefn gwlad.

Yn ei waith bob dydd mae’r saer yn gwneud cypyrddau ceginau a dodrefn â llaw, ac mae gweithio ar y gadair wedi ei ysbrydoli yn greadigol. Defnyddiodd ddarnau o goed derw ac onnen leol a oedd wedi bod yn sychu yn ei weithdy i greu’r Gadair. “Dw i wedi bod yn cadw’r pren lleol yma ar gyfer rhywbeth arbennig,” meddai. “Beth well na defnyddio’r rhain ar gyfer Cadair yr Eisteddfod leol?”

Gofynnodd i grefftwr lleol o’r enw Chris Gethin gerfio cefn y gadair, sydd ar ffurf telyn, a’r map o Gymru sydd ar goedyn y sedd, gyda thriban yr Urdd yn dynodi ardal Meifod.

Coron Maldwyn

Yn ei gweithdy ar dir ei fferm ym Mallwyd mae Mari Eluned yn cynnal busnes llwyddiannus yn creu gemwaith o lechi ac arian, ac yno y bu’n gweithio ar goron yr Urdd eleni.

Noddwr y goron yw Undeb Amaethwyr Cymru – Cangen Trefaldwyn – ac roedden nhw’n awyddus i’r gemydd gynnwys elfen amaethyddol yn y cynllun. “Gan fy mod i’n cynnwys hynna yn fy ngemwaith p’run bynnag, roedd yn fy siwtio i i’r dim, hefo steil ac arddull fy ngwaith,” meddai Mari Eluned wrth Golwg.

Mae cyfres o dywysennau ŷd yn gylch o gwmpas y goron arian ac, ar ei blaen, mae plac arian ag arno’r geiriau ‘Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024’ wedi’i hysgythru, a thriban yr Urdd wedi ei greu o arian a llechen Gymreig.

“Dw i wedi defnyddio’r ŷd fel rhyw fath o drosiad, rhyw syniad o ffyniant,” meddai’r gemydd. “Y syniad ydi fod yr Urdd a chymunedau gwledig fel Maldwyn yn hollbwysig i ddiwylliant ac iaith Cymru. Rhyw symbolaeth o hynny ydi hi.”

Undeb Amaethwyr Cymru, digwydd bod, oedd wedi noddi’r goron a luniodd hi ar gyfer Eisteddfod y Bala yn 2014.

Fe fydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 yn cael ei chynnal ym Meifod rhwng 27 Mai a 1 Mehefin. Bydd seremoni’r Cadeirio yn cael ei gynnal ar ddydd Iau’r Eisteddfod a seremoni’r Coroni ar ddydd Gwener yr ŵyl.

Mari Eluned a Choron Eisteddfod yr Urdd Maldwyn. Llun gan Phil Blagg