Fe enillodd y band o Gaerdydd gystadleuaeth Brwydr y Bandiau nôl yn 2018, a bu’r broses o greu eu halbwm gyntaf yn ddipyn o siwrne…

Capsiwl amser indi/ôl-pync yw albwm gynta SYBS, y band o Gaerdydd, gyda’r caneuon yn cwmpasu’r cyffro a’r pryderon a ddaw ynghyd wrth dyfu fyny.

Aeth blynyddoedd heibio ers i’r band ddechrau gweithio ar yr albwm, ac mae’r caneuon wedi aeddfedu gyda’r bechgyn wrth iddyn nhw weu eu ffordd trwy’r arddegau anodd i mewn i’w hugeiniau cynnar.