Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Dw i newydd orffen Lessons in Chemistry gan Bonnie Garmus. Wnes i wirioni efo’r prif gymeriad o’r dechrau un – mae’n nofel hawdd i’w darllen sy’n portreadu’r sefyllfa israddol roedd menywod proffesiynol ynddi yn yr Unol Daleithiau yn 1960au hefo dogn fawr o hiwmor clyfar, cynnil. Y nesa ar y rhestr ydi The Prophet and The Idiot gan Jonas Jonasson. Mae o’n un o’m hoff awduron oherwydd ei hiwmor a’i ddychymyg.