Mae hyfforddwr yn y gogledd wedi meithrin doniau paffio cannoedd o fechgyn ifanc, a’i glwb wedi serennu ar lwyfan cenedlaethol yng Nghaerdydd…

Dros y blynyddoedd mae Clwb Bocsio Caernarfon wedi cael cryn lwyddiant, ac mae un o’u haelodau newydd ddod yn Bencampwr Cymru.

Daeth Rhys Sykes, sy’n 15 oed ac yn dod o bentref Waunfawr tu allan i Gaernarfon, i’r brig yn y categori 80kg ym Mhencampwriaeth Bocsio Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ddiwedd mis Ebrill.