Mae llwyddiant Caernarfon yn rownd derfynol y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop, yn erbyn Penybont, wedi cynnig y tonic yr oedd Uwch Gynghrair Cymru wir ei hangen ar ôl tymor arall eithaf diflas. O’r diwedd, bydd Ewrop yn cael profi’r Cofi Army, sef rhai o’r cefnogwyr mwyaf angerddol yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae’n newyddion mawr i’r clwb ei hun. Dydy hi ddim yn hawdd cystadlu heb ‘Sugar Daddy’ yn y gynghrair yma, a bydd pres UEFA yn hwb mawr iddyn nhw.
Bu Caernarfon yn agos i lwyddo fel hyn o’r blaen. Mae yna ddadl bod y tîm yn gryfach rhwng 2019-2021 pan wnaethon nhw golli allan yn y gemau ail gyfle. Ac ar ddechrau’r tymor yma, roedd pres yn brin ac roedd rhaid i’w rheolwr lleol newydd weithio gyda chyllideb lot llai na rhai clybiau eraill.
Rydw i’n adnabod y rheolwr poblogaidd yna – Richard ‘Ffish’ Davies – ers ei ddyddiau yn Hyfforddwr Cynorthwyydd tîm dan 19 Academi Caernarfon. Hyd yn oed gyda’r tîm ifanc yna, roedd ei frwdfrydedd yn amlwg. Mae yna rhai pobl sydd yn hoffi pêl-droed, ac mae yna rhai pobl sydd yn llenwi eu bywydau gyda phêl-droed. Ond mae Ffish yn anadlu pêl-droed.
Mae’n siomedig iawn na fydd modd cynnal gemau Ewropeaidd yn Yr Oval [oherwydd rheolau UEFA]. Byse’r dorf o 2,000 yn adlewyrchu’n dda iawn ar y gynghrair ar amser pan mae’n gwneud newidiadau uchelgeisiol. Mae yna sôn y bydd gêm gartref Caernarfon yn Ewrop yn cael ei chwarae yn Lloegr, yn stadiwm y Seintiau Newydd, tua dwy awr o’r dref. Rydw i’n siŵr bydd yna ddigon o fysiau yn teithio dros y ffin, ond mae’r Cofis ffyddlon yn haeddu gweld gemau fel hyn yn eu cartref nhw. Rôl UEFA yw cefnogi pêl-droed o bob math, ond dydw i ddim yn gweld llawer o ddealltwriaeth yn yr achos yma. Os mae clwb yn ddigon da i gyrraedd cystadleuaeth Ewropeaidd, dylen nhw gael chwarae’r gêm yn stadiwm ei hun.