Dyma eitem lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Jason Kilshaw o Gaer sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r rhaglen Bwyd Epic Chris ar S4C…

Mae Jason wedi bod yn dysgu Cymraeg ers mis Hydref 2022. Dechreuodd ddysgu ar ar-lein efo Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin.


Jason, beth ydy dy hoff raglen ar S4C?

Bwyd Epic Chris efo Chris Roberts, aka ‘Flamebaster’, ydy fy hoff raglen ar S4C.

Pam wyt ti’n hoffi’r rhaglen?

Dw i’n licio’r rhaglen achos mae Chris yn ddoniol iawn, ac mae o’n coginio bwyd blasus iawn – yng Nghymru a ledled y byd.

Beth wyt ti’n feddwl o’r cyflwynydd?

Dw i’n meddwl bod Chris yn anhygoel, ac mae’r bwyd yn wych. Fodd bynnag, Roxy, ci Chris, yw seren y sioe!

Chris a’i gi Roxy

Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Dw i’n meddwl bod y rhaglen yn dda i ddysgwyr gan fod pawb yn y rhaglen yn siaradwyr iaith gyntaf, ac mae llawer ohonynt yn defnyddio iaith sy’n unigryw i dafodiaith y Gogledd Orllewin a Cofis Caernarfon. Dw i’n meddwl bod hyn yn bwysig iawn yn y broses o ddysgu’r iaith, i glywed gwahanol acenion a thafodieithoedd!

Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?

Maen nhw’n siarad iaith y gogledd – yn wir, mae Chris yn siarad tafodiaith y Cofis!

Faset ti’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?

Wrth gwrs! Fyswn i’n ei argymell i unrhyw un. Mae’n ddoniol ac mae digon o fwyd – rhywbeth i bawb.

Bwyd Epic Chris, S4C/Clic a BBCiPlayer