Bydd tymor newydd o Cwis Bob Dydd yn dechrau ddydd Llun, Mai 20.
Y tro hwn, bydd yr enillydd yn derbyn gwyliau i bedwar o bobol mewn chalet sgïo moethus yn Méribel yn Ffrainc fel prif wobr.
Fe fydd y tymor newydd yn para ugain wythnos o fis Mai tan fis Hydref, gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan ar ôl i’r tymor orffen.
Y nod yw ateb deg cwestiwn y dydd i gyd yn gywir, mor gyflym â phosib, er mwyn cyrraedd brig y sgorfwrdd, gan ddefnyddio ap Cwis Bob Dydd S4C.
Mae’r sgôr yn gyfuniad o’r atebion cywir a pha mor gyflym mae’r cystadleuwr wedi eu hateb, ac mae’r cwestiynau’n wahanol i bawb.
Dyma bedwerydd tymor y cwis, sydd wedi casglu bron i 20,000 o ddilynwyr ffyddlon erbyn hyn.
Bob tro y bydd rhywun yn cystadlu ar y cwis, byddan nhw’n derbyn tocyn i’r raffl am gyfle i ennill y brif wobr.
Po fwyaf y mae rhywun yn cystadlu, yr uchaf y siawns o ennill.
“Mae’r tîm i gyd mor gyffrous i allu cyhoeddi tymor newydd o Cwis Bob Dydd,” meddai Megan Llŷn, un o gyflwynwyr y cwis.
“Gallwch chi gymryd rhan yn hawdd iawn – dim ond lawrlwytho’r ap sydd angen.
“Chwaraewch yn erbyn eich ffrindiau, eich cydweithwyr, eich partner, eich teulu a Chymru gyfan.
“Pwy a ŵyr, efallai mai chi fydd yn ennill y brif wobr sef gwyliau arbennig i bedwar yn Meribel, Ffrainc.
“Pob lwc i chi gyd ar y cwis – a cofiwch fod mwy o siawns gyda chi i ennill bob tro fyddwch chi yn cymryd rhan!”
‘Ystod eang o gwestiynau’
Ychwanega Ameer Davies-Rana, un arall o gyflwynwyr y cwis, y byddan nhw yn Eisteddfod yr Urdd, Y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol eleni, ac y bydd cyfleodd i ennill gwobrau Cwis Bob Dydd yno.
“Fe fydd yna ystod eang o gwestiynau yn y cwis fydd yn siŵr o herio pawb,” meddai.
“Bydd yna gwestiynau cwis traddodiadol, ychydig o trivia, a chwestiynau am ddiwylliant Cymru.
“Cofiwch hefyd edrych allan amdanom ni yn y digwyddiadau mawr dros yr haf.”