Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae golwg360 wedi cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gydag Iwan Rhys, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Ffeithiol Greadigol gyda Trothwy.
Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda
Myfyrdodau ar brofiadau bywyd go iawn sydd yn Trothwy, ond wedi’u hysgrifennu mewn ffordd greadigol. Rwy’n trafod sut roeddwn i’n trio dod o hyd i fy lle ar aelwyd newydd fel llystad, fel dyn dŵad i dafarn y Twthill Vaults a’r tîm darts, a hefyd ar fy ymweliadau mynych â dinas Berlin wrth fynd â’r plant yn ôl ac ymlaen at eu tad. Felly mae’n gyfuniad o ddarnau annwyl a gonest, darnau teithio, a thipyn o hiwmor hefyd.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol. Pam penderfynu ei sgrifennu?
Mae’n siŵr mai’r plant, a’r profiadau go iawn, oedd yr ysbrydoliaeth bennaf. Ond ro’n i hefyd wedi mwynhau darllen sawl llyfr ffeithiol a oedd yn llwyddo i gyflwyno profiadau neu hanesion go iawn, a hynny mewn ffyrdd creadigol ond heb droi’n ffuglen. Ro’n i wedyn yn teimlo bod gen i brofiadau difyr i’w rhannu yn yr un modd.
Sut brofiad oedd bwrw ati i sgrifennu?
Rwy wedi bod yn barddoni ers blynyddoedd, yn gymysgedd o’r dwys a’r digri, ac wedyn wedi cyhoeddi nofel (Y Bwrdd, Y Lolfa, 2019). Ond hyd yma, Trothwy yw’r gwaith dwi wedi mwynhau ei sgrifennu fwyaf. Gan mai profiadau go iawn ydyn nhw i gyd, doedd dim gwaith i’r dychymyg o ran creu cymeriadau, perthnasoedd a lleoliadau. Felly proses braf iawn oedd gallu dewis a dethol y golygfeydd a’r atgofion fyddai’n gweddu i’r hyn roeddwn i eisiau ei gyfleu, ac wedyn eu hysgrifennu’n greadigol, bron fel dilyniant o straeon byrion a sgwennu teithio.
Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur a bardd?
Darllen awdlau buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol dros y degawdau dynnodd fi i mewn i ddysgu cynganeddu. Barddoniaeth fyw, a chyfrolau Cywyddau Cyhoeddus wnaeth fy sbarduno i sgrifennu cerddi ysgafn. Doedd nofelau ffantasïol i blant ddim at fy nant, felly fe droais at nofelau realistig a llyfrau ffeithiol greadigol i oedolion yn lled ifanc. Mae gormod i’w henwi i gyd, ond fe wnaf i grybwyll Bill Bryson a John Steinbeck. Dros y cyfnodau clo, ac wrth i’r syniadau am Trothwy ffrwtian, llyfrau ffeithiol greadigol oeddwn i’n eu mwynhau, gan gynnwys Heat a Dirt gan Bill Buford, Kitchen Confidential gan Anthony Bourdain, Passage to Juneau gan Jonathan Raban, On the Red Hill gan Mike Parker a’r campwaith Europe gan Jan Morris. Mae pob un o’r rhain yn plethu’r pynciau ffeithiol dan sylw a phrofiadau personol yn gelfydd, a dyna dwi wedi trio ei efelychu yn Trothwy.